Amdanom Ni

Ffrwdllo ger Llanwrda.  O gasgliadau'r CHCC: Hawlfraint Miss M.E. Jones, 1948. (Image: DI2006_0959 / NPRN: 17334) Neuadd y Sir, Hall Square, Dinbych. Lluniad digidol o ochr ogleddol Neuadd Tref Dinbych sy’n dangos cyfnodau ei datblygu. Diddyddiad. (Image: DI2006_1082 / NPRN: 23423)

Gweithgareddau Cyhoeddi ac Estyn-Allan

Mae estyn-allan yn un o weithgareddau canolog y Comisiwn Brenhinol ac yn adlewyrchu’r cyfrifoldeb sydd arno i drefnu i ffrwyth ei waith fod yn hygyrch, ar gael yn eang ac wedi’i gyflwyno’n raenus, er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o dreftadaeth Cymru.

Bydd gweithgarwch estyn-allan yn cynyddu gwybodaeth y cyhoedd o adnoddau a gwasanaethau’r Comisiwn ac yn fodd i’r Comisiwn gyfleu ei werthoedd i’r cyhoedd, i wleidyddion, i grwpiau o gydweithwyr, i bartneriaid, i bob sector o fyd addysg a dysgu gydol oes, i’r cyfryngau, i gyrff proffesiynol a masnachol, i gymunedau y tu allan i Gymru ac i hyrwyddo ‘twristiaeth ddiwylliannol’.

Dogfennau