Os bydd gennych bryder neu gŵyn am y gwasanaeth yr ydych wedi’i gael, am aelod o’r staff, neu am unrhyw agwedd arall ar waith y Comisiwn Brenhinol, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r aelod o’r staff sydd fwyaf uniongyrchol gyfrifol er mwyn iddo/iddi geisio datrys y broblem. Cewch restr o aelodau’n staff ar dudalennau Cysylltwch â Ni . Os na fyddwch chi’n fodlon ar yr ymateb a gewch chi, byddwch cystal â chyflwyno cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig i:
Dr Peter Wakelin
Yr Ysgrifennydd
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Plas Crug
Aberystwyth
SY23 1NJ
Os byddwch chi’n dal i fod yn anfodlon, cewch ysgrifennu at y Cadeirydd, Dr. Eurwyn Wiliam, yn yr un cyfeiriad.
Caiff cwynion swyddogol a’u canlyniadau eu monitro’n ganolog i’n helpu ni i wella’n gwasanaethau.