Dr Eurwyn Wiliam MA., PhD., FSA (Cadeirydd)
Hanes Proffesiynol:
Curadur, Ceidwad a Chyfarwyddwr Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 1971 – 94.
Yn ddiweddar, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.
Comisiynydd ar Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 1992-2006.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Cwblhau llyfr “Y bwthyn Cymreig. Traddodiadau adeiladu cynaladwy yng nghefn gwlad Cymru, 1750 – 1900”.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Yr Athro Antony David Carr MA, PhD, DAA
Hanes Proffesiynol:
Archifydd Cynorthwyol yn Archifdy Sir Essex, 1961-64.
Darlithydd Cynorthwyol, Darlithydd, Uwch-Ddarlithydd, Darllenydd ac Athro Hanes Cymru, Prifysgol Cymru, Bangor 1964-2002.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru tua diwedd yr Oesoedd Canol; mae wrthi’n gweithio ar lyfr ar uchelwyr y Gogledd tua diwedd yr Oesoedd Canol.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr J.N.O. Harries BA, MEd. FCMI
Hanes Proffesiynol:
Profiad o Addysgu ar y lefel Uwchradd ac o fod yn Ddirprwy Brifathro, 1962/1974. Ymgynghorydd a Swyddog Addysg Dosbarth, Morgannwg Ganol, 1974/1986. Cyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol, Morgannwg Ganol, 1987/1994. Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg, Cyngor Sir Morgannwg Ganol, 1994/1995. Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, 1995/2000.
Ymgynghorydd Arbenigol i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar bolisi TGCh i Ysgolion, 2000
Cyfarwyddwr y ‘Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru’, 2001/2003
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr John Lloyd CB, MA, YH
Hanes Proffesiynol:
Gwas Sifil yn Nhrysorlys Ei Mawrhydi, y Swyddfa Gymreig a gwasanaeth seneddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn gyn-Ddirprwy Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig ac yn gyn-Glerc y Cynulliad Cenedlaethol.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mrs Anne Eastham BA, Dip Arch.
Hanes Proffesiynol:
Mae’n arbenigo ar ddehongli olion adar a mamaliaid bach yn amgylcheddol. Wrthi’n ymchwilio ac addysgu ym maes archaeoleg. Mae’n ymwneud ar hyn o bryd â phrosiectau ymchwil archaeolegol yn Ffrainc, Sbaen ac Awstralia.
Ymhlith ei Diddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Patrymau adar a ffawna yn y cyfnod palaeolithig a’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach yng Nghymru a’r Pyreneau. Mae hi wrthi’n ymchwilio hefyd i ddulliau o fagu dofednod mewn unedau ar hyd yr oesoedd cyn dyfodiad gynnau. Cynhanes Sir Benfro a pharhad datblygiad cymunedol.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr Henry Owen-John BA, MIFA, FSA.
Hanes Proffesiynol:
Graddiodd yn Birmingham ym 1976 a bu’n gweithio i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent tan 1991. Ymunodd ag English Heritage ym 1991 a daeth yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr. Yn 2004 daeth yn Gyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu Rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr gan fod yn gyfrifol am gyngor statudol English Heritage, dyrannu grantiau a meithrin partneriaethau.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Mae’n dal i ymddiddori mewn archaeoleg gynhanesyddol a Rhufeinig, ac yn amffitheatr Caer yn arbennig.
Canolbwynt ei ddiddordebau ymchwil ar hyn o bryd yw arbenigrwydd pensaernïol trefi diwydiannol gogledd-orllewin Lloegr a chyfraniad hynny i agenda’r llywodraeth ynghylch adnewyddu tai.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Mr Jonathan Hudson MBCS.
Hanes Proffesiynol:
Ymarferydd Technoleg Gwybodaeth ers deugain mlynedd. Ers 1993, mae’n rhedeg ei fusnes ymgyngoriaethol ei hun sy’n arbenigo ar ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth i hwyluso cyflawni llu o aseiniadau, yn bennaf yn y sector cyhoeddus, gan sefydliadau mawr a bach ledled Prydain a chan lywodraethau tramor.
Cyn 1993 bu’n uwch-ymgynghorydd yn Deloitte and Touche a bu’n dilyn gyrfaoedd ym maes Technoleg Gwybodaeth yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y sector preifat.
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Defnyddio technoleg i gyfoethogi gwaith y Comisiwn a chynyddu mynediad y cyhoedd i’r wybodaeth sydd gan y Comisiwn.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Yr Athro C. M. Williams B.A., PhD., F.R.Hist.S.
Hanes Proffesiynol:
Darlithydd / Uwch-Ddarlithydd, Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd, 1988-2001
Athro’r Gymru Fodern a Chyfoes, Prifysgol Morgannwg, 2001-2004
Athro Hanes Cymru, Prifysgol Abertawe, 2005 hyd heddiw
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
J. M. Staniforth, cartwnydd y Western Mail. Trefoli Casnewydd yn ystod
y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ef wrthi’n golygu dyddiaduron
Richard Burton.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200
Dr Mark Redknap BA,PhD, MIFA, FSA
Hanes Proffesiynol:
Curadur Cynorthwyol (Is-Adran Archaeoleg a Hanes Lleol) yn Amgueddfa Passmore Edwards, Stratford, Llundain E15 (1983-1988). Ar hyn o bryd mae’n Guradur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddarach yn Adran Archaeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru. Ymunodd â’r Adran ym 1988 ar ôl cwblhau doethuriaeth ar ddiwydiannau crochenwaith Eifelgebiet yr Almaen yn y cyfnod Rhufeinig a’r Oesoedd Canol
Ymhlith ei Ddiddordebau Ymchwil ar hyn o bryd, mae:
Ymchwil sylfaenol i Archaeoleg yr Oesoedd Canol Cynnar, ac mae ganddo wybodaeth arbenigol am anheddu ym Mhrydain a’r Cyfandir yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a llestri Mayen o’r cyfnod Rhufeinig diweddar a’r Oesoedd Canol Cynnar; cerrig arysgrifenedig a cherfluniau carreg o’r Oesoedd Canol Cynnar; ceramigau canoloesol OC 400-1550; cychod canoloesol ac archaeoleg y môr; arteffactau canoloesol ac ôl-ganoloesol; y Llychlynwyr. Mae ef wrthi’n llunio disgrifiadau o’r gwaith cloddio yn Llan-gors (Powys) a Llanbedr-goch (Môn) yn yr Oesoedd Canol Cynnar, gemwaith canoloesol a chofroddion y pererinion.
Manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ffôn: 01970 621200