Gan mai’r Comisiwn Brenhinol yw’r corff yng Nghymru sy’n arwain o ran pennu safonau data ar gyfer sector yr amgylchedd hanesyddol, yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr mewn sefydliadau eraill ar lefel Cymru a Phrydain i sicrhau bod yr adnoddau gwybodaeth yn cydweddu â’i gilydd. Yr ydym wrthi’n cyfrannu at ddatblygu un safon ar gyfer Prydain - safon o’r enw MIDAS UK – a fydd yn nodi’r safonau cytûn ar gyfer disgrifio henebion, digwyddiadau, pobl a sefydliadau.
Bydd mabwysiadu un safon ddata yn fodd i ni adeiladu rhwydweithiau mynediad fel bod modd gofyn i adnoddau gwybodaeth adalw cofnodion o bob rhan o Brydain i gyd yr un pryd. Nod yw hwnnw sy’n destun trafod gydag aelodau o Fforwm y Safonau Gwybodaeth mewn Treftadaeth, sef gr?p o reolwyr gwybodaeth o sector yr amgylchedd hanesyddol ym mhob rhan o Brydain. Bydd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.
Yr ydym hefyd wrthi’n datblygu safonau yn y Gymraeg fel bod modd chwilio’n cronfeydd data yn Gymraeg neu Saesneg.