Nod cyhoeddi dehongliad o ffrwyth gwaith maes y Comisiwn Brenhinol yw hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol a rhoi gwybod yn gyson i’r cyhoedd am ei waith. Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi cyhoeddi ffrwyth ei ymchwiliadau oddi ar 1910, a bu i’r ‘inventory’ cyntaf yng Nghymru, ar Sir Drefaldwyn, ddilyn patrwm y Victoria History of the Counties of England. Arolwg o sir, fesul plwyf sifig, oedd y gyfrol honno. Yn ddiweddarach, patrwm yr ‘inventories’ oedd rhestru henebion fesul topig yn eu trefn hanesyddol, gan adlewyrchu hanes y sir dan sylw a’i gwneud hi’n haws deall arwyddocâd hanesyddol henebion unigol. Yn ddiweddarach eto, cydnabuwyd mai’r ffordd orau o gyflawni swyddogaeth ‘inventories’ yw defnyddio adnoddau electronig y gellir eu cyrchu ar-lein drwy Coflein.
Yn ystod y 1970au, symudodd y Comisiwn i gyfeiriad cyhoeddi ar dopig unigol, a gwnaed arolwg Cymru-gyfan ar gyfer Houses of the Welsh Countryside, pryd y cyhoeddwyd sampl gynrychioliadol o wahanol nodweddion adeiladwaith, addurniadau a chynllun. Mae’r prosiect Cymru-gyfan ar gapeli, sydd bellach yn tynnu at ei derfyn, wedi esgor ar wybodaeth ar gyfer astudiaeth debyg o gapeli Cymru.
Mae polisi cyfredol y Comisiwn Brenhinol ar gyhoeddi yn cynnwys cynhyrchu llyfrau o bwys, arolygon cenedlaethol a chyfrolau thematig byrrach, cynlluniau poster; cyhoeddiadau rhyngweithiol ar y we, ac adroddiad blynyddol.
Byddwn ni hefyd yn cyhoeddi newyddlen ac amrywiaeth o daflenni am ein rhaglenni, ein gwasanaethau a’n prosiectau.