Cyhoeddiadau

Capel Seion, Aberystwyth. 2000. (Image: DI2006_0268 / NPRN: 7147) Castell Talacharn, ger Caerfyrddin. 2004. (Image: DI2005_1167 / NPRN: 95634)

Adroddiadau Ymchwil

Darnau o ymchwil sy’n gyflawn ynddynt eu hunain yw Adroddiadau Ymchwil y Comisiwn Brenhinol ac maent yn manylu ar hanes a datblygiad safleoedd penodol. Cânt eu cynhyrchu yn swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol a disgrifiant yr ymchwiliadau archaeolegol a phensaernïol a wneir fel rhan o Raglen Arolygu y Comisiwn Brenhinol.

Datblygiad newydd gan y Comisiwn Brenhinol yw cynhyrchu adroddiadau manwl mewn fformat electronig ar ffurf ffeiliau PDF y gellir eu llwytho i lawr. Ein gobaith yw bod y fformat hwn yn fodd i ni drefnu i’r dehongliad o ffrwyth yr ymchwiliadau fod ar gael i’r cyhoedd yn gynt nag o’r blaen.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd:

  • Castell Cefnllys, Sir Faesyfed
  • Neuadd y Sir yn Ninbych

Mae’r adroddiadau sydd ar y gweill yn cynnwys:

  • Tŷ a Gwaith Tun Castell Malgwyn, Cilgerran, Sir Benfro
  • Hen Gastell Aberystwyth
  • Tramffordd Hill, Llan-ffwyst Fawr, Sir Fynwy