Ein Gwasanaethau

Barics Wrecsam. Llun o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn eu gwisg ffurfiol. Diddyddiad. (Image: CD2005_622_012 / NPRN: 23426) Gwesty’r Kings Head, Trefynwy. Gwaith plastro. 2001.  (Image: DI2005_1081 / NPRN: 45015) Castell Caerffili. Lluniad pen ac inc o ben cerfiedig yng Nghastell Caerffili. 1990. (Image: DI2005_0010 / NPRN: 94497)

Derbyniadau Diweddar

Mae’r tudalen hwn yn tynnu sylw at gasgliadau sydd wedi’u derbyn i Archif CHCC yn ddiweddar o gofnodion, neu eitemau unigol, sy’n arbennig o ddiddorol, o bwysig neu o atyniadol. Gall y cofnodion hynny ddeillio o waith cofnodi a dehongli Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru neu gael eu rhoi gan sefydliadau ac unigolion allanol. Caiff y tudalen ei ddiweddaru pryd bynnag y daw cofnodion nodedig i law. Gwiriwch y tudalen hwn yn gyson i gael gwybod am fanylion tarddiad, cefndir a chwmpas derbyniadau newydd o bwys. Yn ogystal, fe roddwn ni newyddion am waith diweddar ar gasgliadau sy’n bod yn barod, megis eu catalogio a’u digido, pan fydd hynny’n briodol.