Hafan

Castell St. Donat's. 1991. (Image: DI2005_1018 / NPRN: 300312) Diwrnod Agored, gweithgareddau Plant 2009 (Image: Open Day 2009 011 / NPRN: 0 / Source: RCAHMW)

Hafan

Y Comisiwn Brenhinol yw corff archwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Am mai ganddo ef y mae’r rôl arweiniol wrth sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol a’i deall yn gywir, bydd yn ceisio hyrwyddo gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Datblygiadau diweddar

Hidden Histories

Dyma'rail gyfres o'r rhaglenni hynod boblogaidd sy'n rhoi sylw i'n trysorau cudd drwy gyfrwng gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Nos Fawrth am 7.30 ar BBC FOUR o 26 Ionawr ymlaen.

Casgliad Aerofilms

Yr ydym wrthi’n datblygu prosiect gydag English Heritage a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban i drefnu i Gasgliad Aerofilms o awyrluniau fod yn hygyrch drwy sicrhau ei gadwraeth, ei gatalogio a rhoi’r delweddau ar-lein. Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf yn gyson am y prosiect hwn, anfonwch e-bost i aerofilms@english-heritage.org.uk gan ofyn am gael ymuno â’r rhestr bostio a byddwn ni’n anfon newyddion a gwybodaeth atoch drwy e-bost o dro i dro. Ni chaiff y cyfeiriad e-bost a roddwch fel hyn mo’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

Gorffennol Digidol 2010

Gan adeiladu ar lwyddiant y gynhadledd Gorffennol Digidol gyntaf yn Aberystwyth, bydd Gorffennol Digidol 2010 yn cynnig deuddydd o ddigwyddiadau a gynhelir yn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan ac o’u hamgylch. Cyfunir papurau cynhadledd, seminarau a sesiynau hyfforddi ymarferol i ymdrin â’r technegau arolygu a dehongli diweddaraf ac â’u cymhwyso’n ymarferol at ddehongli ac addysgu am dreftadaeth.

Cofnod yw cylchlythyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Cofnod nawr ar gael fel PDF y gallwch eu llwytho i lawr.

Darllenwch flog Newyddion Treftadaeth Cymru. Allwn ni wela'n gwasanaethau gwe? Rhowch wybod i ni drwy ychwanegu'ch sylwadau.