Treftadaeth Cymru

Cymru Fodern Gynnar

Er bod haneswyr fel rheol o’r farn bod prosesau sy’n para blynyddoedd maith yn bwysicach na digwyddiadau unigol, gellir dweud i’r Gymru fodern gynnar ddechrau, i bob pwrpas, adeg pasio’r Ddeddf Uno ym 1536. Llawer llai pendant yw diwedd y cyfnod: gellid dweud iddo ryw ddechrau tynnu at ei derfyn wrth i’r Chwyldro Diwydiannol gyflymu ar ôl canol y ddeunawfed ganrif.

Creodd Deddf 1536 dair sir ar ddeg o glytwaith arglwyddiaethau’r Mers a thywysogaethau’r gogledd a’r gorllewin. Parodd y gweinyddiaethau sirol newydd, y cyflymu yn yr economi a’r cynnydd yn y boblogaeth i’r prif drefi flodeuo. Bron yr un pryd fe welwyd y foment hollbwysig honno yn y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru, sef diddymu’r mynachlogydd, proses a gwblhawyd ym 1539. Effaith hynny oedd i lawer o’r abatai mawr a’u hystadau edwino ond i’r ystadau preifat mawr gryfhau a thra-arglwyddiaethu ar fywyd gwledig Cymru tan iddynt hwy, yn eu tro, gael eu chwalu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Newidiodd y Diwygiad Protestannaidd hefyd lawer iawn ar drefn ac addurniadau eglwys y plwyf ac arwain at godi’r enghreifftiau cyntaf o fath newydd o adeilad, y capel anghydffurfiol. Mae ôl pob un o’r newidiadau hynny i’w gweld yn glir yn adeiladau Cymru hyd heddiw.

  • Cyntedd yr Hen Bewpyr, Morgannwg. 1600 yw'r dyddiad ar yr arysgrif: 'SIR THOMAS JOHNS KNIGHT/ BWYLT THIS PORCH WITH / THE TONNES [simneiau] IN ANO 1600/ HIS YERES 65 HIS WIFE 55' (Llun: DI2006_1602 / NPRN: 19488)
  • Adeilad y llys - adeilad ac iddo ffrâm o bren yn Llanidloes, Sir Drefaldwyn. (Llun: DI2006_1969 / NPRN: 32039)
  • Llanidloes, Sir Drefaldwyn. (Llun:DI2008_0400 / NPRN 32039)

Goroesi fel unedau gweinyddol bron tan ddiwedd yr ugeinfed ganrif fu hanes y siroedd a grëwyd gan y Ddeddf Uno; adlewyrchir eu presenoldeb bywiog o hyd gan y cymdeithasau sydd wrthi’n ddyfal yn ymchwilio i hanes eu siroedd, a chan y prosiectau sy’n astudio’u hanes. Gan i’r brif dref ym mhob sir gael rôl weinyddol newydd, daeth neuadd y sir yn ganolbwynt i’r ffordd y câi sir ei gweinyddu. Ar y llaw arall, er i’r cestyll, hen symbolau awdurdod yr arglwyddi, lwyddo i gadw ychydig bach o’u swyddogaeth, a hynny fel carchardai’r siroedd, dal i ddirywio’n araf wnaeth y mwyafrif ohonynt. At ei gilydd, trefi bach oedd trefi Cymru: mae’r ymchwil yn dangos mai prin oedd y rhai a oedd â mwy na mil o bobl ynddynt ar ddechrau’r cyfnod modern cynnar. Mae cynlluniau John Speed tua dechrau’r ail ganrif ar bymtheg nid yn unig yn dangos mor gyfyngedig oeddent o ran eu maint ond hefyd yn awgrymu bod rhai o’r trefi a oedd heb gael swyddogaethau newydd yn graddol grebachu. Mae gwaith y Comisiwn Brenhinol mewn amryw o drefi yn dangos mor bwysig yw olion pensaernïol wrth adrodd hanes trefol Cymru ac yn awgrymu hefyd fod llawer eto heb ddod i’r golwg.

Rhaid cofio mor fywiog a dylanwadol oedd prif drefi’r siroedd newydd. Yr oeddent fel llestri a fyddai’n llenwi a gwacáu ar gyfer y llys chwarter, y brawdlys (neu’r sesiwn fawr) a’r marchnadoedd. Codwyd ynddynt fath newydd o adeilad - neuadd y sir - ac yno y cynhelid sesiynau’r llysoedd. Cafodd neuaddau’r siroedd eu codi a’u hailgodi’n gyson drwy gydol y cyfnod modern cynnar, ac mae rhai enghreifftiau gwerthfawr a chynrychioliadol ohonynt wedi goroesi. Gwelir y cam cyntaf yn natblygiad y broses o godi llysoedd yn ‘neuadd y farchnad’ yn Llanidloes, neuadd ac iddi ffrâm o bren lle mae ystafell y llys ar y llawr cyntaf wedi’i godi ar bileri uwchben marchnad dan do. Mae neuadd y sir yn Ninbych, a godwyd ym 1572, yn enghraifft o godi adeilad sifig mewn carreg yn lle pren, a hynny o dan nawdd Iarll Caerlŵr. Cynrychiolir ailddatblygiadau’r ddeunawfed ganrif, a dueddai i beidio â chynnwys marchnadoedd ar eu llawr isaf, gan y llys ym Miwmares lle mae ystafell y llys wedi’i chadw fel yr oedd hi.

Yn aml, man i ladd anifeiliaid oedd y lle rhwng y colofnau o dan nifer o neuaddau sir, ac yno hefyd yr oedd canolbwynt y farchnad. O bryd i’w gilydd, byddai gweithgarwch masnachu prysur y marchnadoedd wythnosol a’r ffeiriau tymhorol yn llenwi prif strydoedd y dref fodern gynnar ac, yn aml, yn ymestyn i’r fynwent hefyd. Mewn rhai achosion, fel yn Hwlffordd, gellir adnabod rhannau a oedd yn gysylltiedig â masnachau penodol. Mae patrwm llawer tref yn dal i adlewyrchu ei swyddogaeth hanesyddol fel canolfan i farchnad, ac ar hyd ei strydoedd llydan gellid codi stondinau dros dro. Ym Machynlleth hyd heddiw, cynhelir marchnad stryd wythnosol y gellir honni, efallai, ei bod hi’n barhad o’r farchnad a gynhelid yno yn yr Oesoedd Canol. Yn Ninbych, ar y llaw arall, codwyd adeiladau dros ran o dir y farchnad.

  • Plas Mawr, Conwy: ,ynedfa 1595 o'r Stryd Fawr. Tynnwyd y ffotograff hwn ganol yr ugeinfed ganrif gan Una Norman (Llun:DI2007_0242 / NPRN: 16754)
  • Golwg o ben draw neuadd y sir yn Ninbych:lluniad o'r arolwg sy'n dangos gwahanol gyfnodau codi'r adeilad (Llun: DI2006_1082 NPRN: 23423)
  • 24, Vale Street, Denbigh. (Llun: DS2005_034_005 / NPRN:401968

Mae nifer yr adeiladau sydd wedi goroesi o’r cyfnod modern cynnar yn amrywio cryn dipyn o dref i dref. Er bod ambell dŷ tref hynod sylweddol, a’r Plas Mawr yng Nghonwy yn arbennig, yn dal i sefyll, fe welwyd, ailddatblygu parhaus ar y tai fel arfer. Tai o bren oedd y mwyafrif o’r tai yn nhrefi’r Gymru fodern gynnar a chafwyd hyd i dai â’u tu blaen o bren hyd yn oed y tu allan i’r mannau lle ceir nifer dda o adeiladau pren gyda’i gilydd – fel y gwnaed, er enghraifft, yn Hwlffordd. Heddiw, er hynny, mae’n anodd dychmygu cymaint a godwyd mewn pren. Tân oedd y perygl i drefi o dai pren am y gallai ddinistrio rhan fawr o’r dref, fel y gwnaeth yn hanes Llanfair-ym-Muallt a Llanandras. Gellir bwrw amcan o hyd a lled y tân dychrynllyd a losgodd Lanandras ym 1681 drwy nodi’r mannau sy’n amddifad o’r un adeilad canoloesol.

Cafodd llawer o adeiladau o’r Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar eu dinistrio adeg yr ailddatblygu a fu tua diwedd y cyfnod Sioraidd ac yn ystod oes Victoria, a hynny heb i unrhyw lun gael ei wneud ohonynt. Mae adeiladau rhai trefi fel Aberystwyth yn perthyn bron yn llwyr i oes Victoria a chyfnodau diweddarach er bod patrwm y strydoedd ynddynt yn h?n na hynny. Eto i gyd, gellir dod o hyd i adeiladau trefol h?n y tu ôl i’r ffasadau diweddarach, yn enwedig yn y trefi na ddatblygwyd mwy na mwy arnynt neu’r rhai sydd wedi cadw eu canol hanesyddol. Dangosodd arolwg y Comisiwn Brenhinol o’r Bont-faen fod y brif stryd yn cynnwys pedwar ar hugain o dai a godwyd cyn 1700. Mae arolygon o Lanandras, Hwlffordd a Dinbych wedi dangos bod yno glystyrau tebyg o adeiladau o’r cyfnod modern cynnar.

Diflannu’n llwyr wnaeth rhai mathau trefol o adeiladau megis adeiladau’r gildiau (er bod symbol gild y menigwyr wedi goroesi yn Ninbych. Prin iawn yw mathau eraill o adeiladau nad oes rhyw lawer o newid wedi bod arnynt. Er mai cynllun domestig neu led-ddomestig sydd i dafarndai hanesyddol yn aml, gellir dod o hyd iddynt ar sail y duedd i ychwanegu ystafelloedd arbenigol atynt. Digwydd hynny yn Nhafarn y Spread Eagle yn y Bont-faen lle mae ystafell gyfarfod o’r ddeunawfed ganrif wedi goroesi uwchlaw bragdy a godwyd tua 1740. Prin hefyd yw siopau ac adeiladau masnachol, a thystiolaeth ddogfennol yn unig sydd i’r bythau a’r stondinau a ddefnyddid yn y marchnadoedd gynt. Mae Royal House ym Machynlleth, yr ymwelodd y Comisiwn ag ef gyntaf ym 1909, yn nodedig am iddo fod yn annedd i sidanwyr ac yn stordy am ryw bedwar can mlynedd.

  • Ffotograff a dynnwyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf o Royal House, Machynlleth, a'r siop ddillad yn y tu blaen (Llun: DI2008_0398 / NPRN: 29929)
  • Y grisiau yng Ngwesty'r Bull,Dinbych, sydd â llaw mewn maneg ar y postyn. (Llun:CD2005_627_033 / NPRN:26894)
  • Effallai mai herodraeth yr eryr deuben o 1643 a ysgogodd enwi'r gwesty'n Westy'r Eagles. (Llun: CD2005_628_002 / NPRN: 26773)

Wrth i fasnach a’r incwm a oedd ar gael i’w wario gynyddu, bu ffyniant y siopau’n help i gynnal poblogaeth gynyddol y trefi yn ogystal â chwyddo’r galw am nwyddau yn yr ardaloedd o’u hamgylch. Cymorth i’r masnachu hwnnw oedd y cynnydd yn y cyfleusterau cludo, a phorthladdoedd a chilfachau ymhlith y pwysicaf ohonynt. Mae’r masnachu ar hyd yr arfordir wedi gadael amryw o geiau a llongddrylliadau ar ei ôl yn ogystal â rhai adeiladau arbenigol, gan gynnwys ambell warws fel y stordy tybaco caerog rhyfeddol yn Aberddawan.

Mae llyfrau’r porthladdoedd yn dangos amrywiaeth y nwyddau a fasnachwyd, o ffyrnau o glai tân o a fewnforiwyd o Ddyfnaint (gellir eu gweld hyd heddiw mewn rhai ffermdai ym Morgannwg) i farrau haearn i’w hallforio. Yr oedd diwydiannau ar waith yng Nghymru ers cyn y Chwyldro Diwydiannol. Nid yn unig y cloddid am lo a metelau ond ceid hefyd fusnesau y gwyddys llai amdanynt, gan gynnwys sawl gwaith halen ar hyd yr arfordir, fel y safle a gloddiwyd ym Mhortheinon yng Ngŵyr. Allforid haearn, copr a phlwm o’r ffwrneisiau a sefydlwyd yn ystod yr unfed ar ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol, ac yr oedd gweithfeydd pwysig yn cynhyrchu gwifrau yn Sir Fynwy. Sefydlwyd bathdy yn Aberystwyth, er na lwyddodd i oroesi’r Rhyfel Cartref. Yr oedd cael pren i greu siarcol yn hanfodol i’r busnesau hynny: cludid mwyn dros y môr i ffwrnais Ysgubor-y-coed, a godwyd mewn rhan goediog o ogledd Ceredigion, ac erbyn heddiw mae’r ffwrnais a’r ysgubor siarcol yno yng ngofal Cadw.

  • Ffwrnais a storfa siarcol Ysgubor-y-coed, gogledd Ceredigion. (Llun: DI2006_0785 / NPRN: 93938)
  • Mynachdy. (Llun: GTJ25781 / NPRN:81410)
  • Plasty Bachegraig a'r porthody a godwyd gan Syr Richard clough as sydd â'r dyddiad 1567 yn amlwg ar ei du blaen. (Llun: DI2008_0444 / NPRN: 35642)

Cododd elît, a fu ar ei ennill o’r Ddeddf Uno a’r Diwygiad Protestannaidd, ac aethant ati i godi tai mawr sy’n nodweddiadol yng Nghymru a Lloegr. I’r tai hyn y perthynai’r ystadau anferth a grynhowyd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif. Grŵp diddorol yw tai sgweieriaid Cymru, yr ynadon newydd, a’r swyddogion sirol a oedd hefyd yn landlordiaid sylweddol. Yn ystod rhan olaf yr unfed ganrif ar bymtheg, fe ailgodwyd y tai neuadd-agored gan ychwanegu atynt adenydd a chodi lloriau ynddynt. Fel rheol, byddai’r parlwr wrth y fynedfa, siambr fawr ar y llawr cyntaf uwchlaw’r cyntedd, ac amryw byd o simneiau yn codi o’r to. Mae enghreifftiau niferus ohonynt wedi goroesi, ac yn y lluniadau topograffig (yn enwedig y rhai a gomisiynwyd yn y ddeunawfed ganrif gan Thomas Pennant) ceir cofnod gweledol o lawer t? o’r math hwn – tai sydd bellach wedi’u dymchwel. Mae’n fwy na thebyg i’r cynharaf ohonynt, fel Monaughty ym Mhowys, gael eu codi yn ystod y degawdau cyntaf wedi’r Ddeddf Uno. Yng nghyfrol thematig y Comisiwn Brenhinol ar dai mawr Morgannwg olrheinir y themâu a’r amrywiadau yn y cynlluniau a’r manylion. Gan i rai tai yng Nghymru gael eu hysbrydoli gan y Dadeni Dysg, maent yn gwbl arloesol, ac enghraifft nodedig ohonynt yw Bachegraig yn Sir Ddinbych. Fe’i codwyd o frics, a’r dylanwad ar arddull y tŷ oedd y tai trefol â thoeon uchel a geid yn yr Iseldiroedd.. Yr oedd uchder y tai newydd hyn (a elwid weithiau’n dyrau gan y beirdd), a’u siambrau urddasol ar eu llawr cyntaf, yn gwrthgyferbynnu’n amlwg iawn â thai is-ganoloesol hir ac isel y ffermwyr.

Amharodd y Rhyfel Cartref a’r Werinlywodraeth ar godi tai crand yn ystod canol yr ail ganrif ar bymtheg, ac eithriad llachar i hynny yw’r ychwanegiad – a dyddiad arno – yn Uwchlaw’r-coed gan John Jones, y Teyrnleiddiad. Bu’r hyder newydd a deimlwyd ar ôl yr Adferiad yn symbyliad i ailadeiladu sawl tŷ mawr, gan gynnwys Tŷ Tredegar ger Casnewydd a Thŷ Newton yn Llandeilo. Er mai penseiri proffesiynol fu’n cynllunio’r plastai hynny, mae’n anodd darganfod pa benseiri’n union fu wrthi. Dyna oedd y sefyllfa hyd at ganol y ddeunawfed ganrif, hyd yn oed yn achos plastai pwysig fel Nanteos, Ynysymaengwyn, Erddig a llu o rai eraill. Nid tan tua diwedd y ddeunawfed ganrif y gellir astudio’n fanwl waith y pensaer proffesiynol a oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru a’r gororau, a John Nash yn fwyaf arbennig yn eu plith.

  • Bwa cywrain mynedfa'r cerbydau i stabl fawr T? Tredegar, Casnewydd. Fe'i codwyd ym 1684-8. (Llun:DI2008_0075 / NPRN: 20907)
  • Awyrlun o Blas Dinefawr heddiw a'r cyrtiau mewnol (gwasanaethau) ac allanol (y stablau). (Llun: DI2006_0924 / NPRN: 17603)
  • Un o'r nenfydau trawiadol o gyfnod yr Adferiad ym Mhlas Dinefwr. (Llun: DI2006_0822 / NPRN: 17603)

Ymhlith y symbolau eraill a gyfleai statws y plasty mawr yr oedd colomendai, stablau helaeth, parciau ceirw, pyllau pysgod, porthdai ac addurniadau herodrol (nodweddion a fapiwyd yn inventory y Glamorgan Greater Houses). Gwerthfawrogir mwy a mwy y ffaith bod nifer o erddi modern cynnar yn cael eu hamlygu’n eithaf dramatig, weithiau, gan awyrluniau. Ceir lluniau peintiedig trawiadol o’r gerddi yn Nhŷ Newton, Llannerch a’r ardd sydd bellach wedi’i hail-greu yn Nhŷ Tredegar. Mae’r gerddi taclus hynny fel petaent yn cyfleu awydd i sicrhau trefn ar ôl ymyrraeth y Rhyfel Cartref, ac yr oedd pensaernïaeth porthdai newydd a mynedfeydd â chlwydi mwyfwy addurnol yn fodd i gadw pellter cymdeithasol rhwng gwrêng a bonedd.

Gellir cyferbynnu’r duedd i dŵ’r sgweier gyd-fynd â chwaeth ac arddulliau cenedlaethol â theithi mwy rhanbarthol y ffermydd a’r bythynnod. Er y gellir rhoi pwys ar unffurfiaeth pensaernïaeth ddomestig y cyfnod ôl-ganoloesol, fel arall yr oedd hi yn y Gymru fodern gynnar. Ac yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol fe ddisodlwyd cynllun unffurf y tŷ neuadd, tŷ a godid fel rheol gan ddefnyddio nenffyrch. Yn ei le, gwelid cynlluniau lleol a amrywiai’n rhyfeddol o ranbarth i ranbarth ac o ddosbarth i ddosbarth.

Mae’r clasur o fap o fathau rhanbarthol o dai sydd gan Peter Smith yn Houses of the Welsh Countryside yn dangos cymaint o amrywiaeth daearyddol oedd i’r bensaernïaeth frodorol. Cyfraniad arhosol i archaeoleg Cymru yw’r map hwnnw ac fe’i seiliwyd ar waith ymchwil a oedd yn golygu dosbarthu cannoedd ar gannoedd o dai. Ynddo, gwelir rhai gwrthgyferbyniadau mawr rhwng gorllewin a dwyrain, a gogledd a de, o ran cynllun y tai. Mae mapio’r manylion pensaernïol yn amlygu rhai nodweddion hynod o leol, ac enghreifftiau nodedig o hynny yw’r ffermdai â simneiau crwn yn Sir Benfro ac, yn fwy arbennig, y simneiau ar ffurf côn yn ardal Tyddewi.

  • Rhosson-uchaf:yr olaf o'r ffermdai â simneiau crwn, na newidiwyd rhyw lawer arnynt,yn ardal Tyddewi. (Llun: DI2006_1597 / NPRN: 30144)
  • Dduallt, Merioneth. (Llun: DS2007_221_005 / NPRN: 28336)

Yn y mapiau yn Houses of the Welsh Countryside gwelir cyfres o wrthgyferbyniadau rhanbarthol sy’n gorgyffwrdd nid yn unig o ran eu manylion pensaernïol ond hefyd o ran eu defnyddiau adeiladu. Gwrthgyferbyniad sylfaenol oedd carreg a phren. Ceir clystyrau o adeiladau o bren ar ochr ddwyreiniol Cymru (er bod llawer adeilad o bren wedi’i guddio bellach y tu ôl i ffasadau diweddarach), ond cyn 1700 cyfyngid codi tai o frics i ogledd-ddwyrain Cymru gan mwyaf.

Mae gwaith cofnodi y Comisiwn Brenhinol ar adeiladau brodorol wedi amlygu’r gwrthgyferbyniad hwnnw drwy wneud arolygon manwl o Forgannwg yn y de a Sir Faesyfed yn y dwyrain ac wedi dangos i dai sir Gaernarfon gyfuno gwaith pren o safon uchel â muriau cadarn o gerrig. Caiff gwaith cofnodi’r Comisiwn ar adeiladau o glai (clom) sylw yn y cyfraniadau i’r Cardiganshire County History ac yn y gyfrol y bydd y Comisiwn yn ei chyhoeddi ar fythynnod.

Gwelwyd bod sawl cynllun newydd yn dod i’r golwg, a’r rheiny wedi’u diffinio ar sail safle’r prif ddrws mewn perthynas â’r lle tân. Yr oedd mynedfa-lobi’n nodweddu Clwyd a gogledd a chanol Powys, a’r tŷ hir neu’r aelwyd-a-chyntedd yn nodweddu de Powys, uwchdiroedd Morgannwg, uwchdiroedd Gwent, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Deilliai’r naill fath a’r llall o gynllun y tŷ neuadd ac maent yn cadw’r neuadd (sydd â nenfwd erbyn hyn) ynghyd â’i mainc a’i bwrdd yn y pen uchaf.

Yn aml, câi’r tŷ a’r beudy eu cyfuno dan yr unto yn y tŷ hir. Mae cryn ddiddordeb wedi bod yn y tŷ hwnnw, tŷ yr honnir weithiau iddo fod yn d? nodweddiadol Gymreig. Dangosodd ymchwil ddiweddar fod dosbarthiad helaeth iddo ond nad oedd i’w gael ledled Cymru o bell ffordd. Ceid y mwyafrif o dai hir yn ardaloedd bugeiliol y canolbarth, y gorllewin a’r de ond nid ym mhob ardal lle ceid amaethu bugeiliol: nid oes yr un i’w gael yn y gogledd-orllewin. Y ddadl a gyflwynwyd yn astudiaeth y Comisiwn o dai Sir Faesyfed oedd bod y tŷ hir yn nodweddu ardaloedd lle’r oedd dwyn gwartheg yn bla tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau’r ganrif ddilynol. Mae’n fwy na thebyg bod cyfuno tŷ a beudy nid yn unig yn amaethyddol gyfleus ond yn ymateb doeth i anhrefn y cyfnod.

  • Torlun o Nannerth-ganol sy'n dangos y t? hir â nenffyrch ar ôl gosod y lle tân ynddo tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. (Llun: DI2005_0027 / NPRN: 81416)
  • Nannerth-gannol ar ôl ei adfer (Llun: DI2005_1053 / NPRN: 81416)
  • T? nodweddiadol o Eryri: lluniad esboniadol gan Peter Smith a gyhoeddwyd yn Houses of the Welsh Countryside (1975) (Llun: DI2008_0441)

Datblygiad nodedig oedd yr ymwrthod cynnar â chynllun y tŷ neuadd yng ngogledd-orllewin Cymru. Cyn pen dwy neu dair cenhedlaeth, disodlwyd neuaddau agored gan dai â lloriau llawn ac iddynt leoedd tân amgaeedig ar y llawr isaf a’r llawr cyntaf. Dangosodd inventory Sir Gaernarfon pa mor gyffredin oedd ‘math Eryri’ o dŵ, math sydd hefyd i’w gael ledled Meirionnydd. Er mai 1585 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf sydd wedi’i dyddio gan arysgrif arni, fe aiff dendrocronoleg â’r stori’n ôl i tua 1540. Cadwyd traws-gyntedd ac ystafelloedd gwasanaethu y cynllun canoloesol, ond yn lle’r neuadd ceir cegin ac, yn ganolbwynt iddi, le tân mawr yn y talcen. Byddai grisiau, a’r rheiny’n aml wrth ochr y lle tân, yn arwain i’r siambrau uchaf a oedd wedi disodli’r hen ystafelloedd mewnol.

Gellir canfod proses o drwsio a chlytio ar waith mewn ffermdai wrth i’r rheiny, yn aml, gael eu newid ychydig ar y tro yn hytrach na chael eu hailgodi. Mae’n syndod cynifer ohonynt sydd wedi cadw eu ffabrig canoloesol. Er hynny, fe welwyd yn ystod y cyfnod modern cynnar gryn fuddsoddi mewn adeiladau fferm newydd â chymeriad brodorol cryf yn perthyn iddynt. Yr enghreifftiau cynharaf y mae amryw byd ohonynt wedi goroesi yw ysguboriau. Dangosodd gwaith archwilio ym Morgannwg fod maint a chronoleg yr ysguboriau hynny’n amrywio llawer – o rai mawr a godwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol i enghreifftiau llai eu maint ar yr uwchdiroedd. Cafodd y rhai cynharaf y mae modd eu dyddio ar sail yr arysgrifau arnynt eu codi yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yn Sir Faesyfed, gellir dilyn datblygiad y cyfuno arloesol ar adeiladau (cyfuno ysgubor a beudy a hynny, yn aml, ar lefelau gwahanol) drwy sylwi ar arysgrifau dyddiad o’r ddeunawfed ganrif, ond diweddarach yw cyfuniadau eraill (stabl, cartws ac ydlofft yn arbennig), sef o tua diwedd y ddeunawfed ganrif neu, yn fwy arferol, o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er bod amlinelliad o gronoleg adeiladau fferm wedi’i sefydlu, nid oes digon o gofnodi wedi bod arnynt ac maent ymhlith yr adeiladau brodorol sydd fwyaf mewn perygl. Mae llawer math o adeilad fferm a manylion pensaernïol yn hynod leol eu natur ac yn ddymunol o fympwyol, ac enghraifft dda o adeiladau cymharol fach a rhanbarthol eu cymeriad yw’r tylciau crwn a geir yn y de a’r gorllewin; mae’r colomendy a godwyd mewn ogof yn Culver Hole yng Ngŵyr yn unigryw.

  • Ffotograff a dynnwyd gan y omisiwn Brenhinol ym 1972 o dwlc corbelog Pencaedrain, y Gelli-gaer, Morgannwg, pan oedd yn gyflawn. (Llun: DI2008_0404 / NPRN: 37632)
  • Cefn twlc corbelog Penddeugae-fach, Bargod. (Llun: DI2007_0367 / NPRN: 37634)
  • Cofnod arolygu o adeiladwaith y colomendy mewn ogof yn Culver Hole, G?yr. (Llun: DI2008_0442 / NPRN: 37514)

Cafodd y Diwygiad Protestannaidd effaith sylweddol ar adeiladau crefyddol gan i’r ynadon newydd ddefnyddio’r brawdlysoedd a’r llysoedd chwarter i orfodi’r rheolau newydd. Ac un o sgil-effeithiau diddymu’r tai crefydd oedd creu cyflenwad o ddefnyddiau adeiladu y gallai pobl o bell ac agos eu dwyn, fel y digwyddodd yn achos Abaty Cwm-hir. Gan i’r diddymu, yn ogystal â dileu bywyd crefyddol, ddinistrio canolfannau a oedd wedi arfer noddi crefftwyr, rhoes derfyn ar gyfnod maith o harddu ac adnewyddu ffabrig eglwysi, proses a ddarlunnir orau gan y toeon pren addurnol a’r croglenni a saernïwyd yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar. Mae eglwys y plwyf yn Llanidloes yn dangos croesddylanwadau’r Diwygiad Protestannaidd. Dadleuwyd bod yr eglwys honno wedi manteisio ar ddiddymu Abaty Cwm-hir ym 1536 i gipio arcêd o’r abaty a’i defnyddio i ehangu ac ail-doi’r eglwys. Ond mae’r dyddiad cwblhau, sef 1542, a welir ar un o’r tariannau ar y to, yn cyd-fynd â dyddiadau blwyddgylchau’r pren ynddo ac yn dangos bod hwn yn do newydd a chostus o drawstiau gordd. Y to hwnnw, ynghyd â’i angylion adeiniog, oedd yr olaf o’i fath.

O fewn ychydig flynyddoedd, cawsai tu mewn eglwysi’r plwyfi eu gweddnewid bron yn llwyr. Cafodd nwyddau eglwysi eu cipio a delweddau eu dinistrio neu eu difwyno. Rhoddwyd gwyngalch dros y murluniau ac yn eu lle, weithiau, rhoddwyd testunau mewn llythrennau du ynghyd â’r arfbais frenhinol. Ceir tystiolaeth o dro i dro o ddryllio delwau, fel yn Llandeilo Tal-y-bont, lle mae’n ymddangos bod wyneb wedi’i ddileu’n fwriadol. Cafodd rhai capeli anwes eu cau am byth a’u haddasu at ddefnydd domestig: mae’r Comisiwn wedi cofnodi tri chapel ym Morgannwg a drowyd yn dai yn ystod y cyfnod modern cynnar. Mae cefnogaeth uchelwyr Cymru i’r drefn Anglicanaidd i’w gweld yn glir yn eu cofadeiliau a’u harfbeisiau, dwy elfen a lanwai fwy a mwy ar ganghellau neu gapeli arbennig eglwysi plwyf. Mae rhai cofadeiliau – er enghraifft, cofadeiliau teulu’r Stradlingiaid a’r Aubreyaid ym Morgannwg – o gryn ddiddordeb hanesyddol ac artistig.

  • Abaty Cwm-hir (Llun:GTJ 25792 / MPRN: 96529)
  • St Teilo's, Llandeilo Tal-y-bont. (Llun: DI2007_0927 / NPRN: 94698)
  • Eglwys y Plwyf, Gresffordd: cerflun o Siôn Trefor (1589), y g?r a gododd Blas Trefalun, ar ei orwedd.(Llun: DS2008_042_011 NPRN:165221

Mae’n anodd dilyn hynt yr ad-drefnu a fu ar eglwysi plwyf ar ôl y Diwygiad Protestannaidd, a drysu’r darlun ymhellach wna’r gwaith adfer a wnaed arnynt yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prin iawn oedd yr eglwysi newydd a godwyd, ond yn eu plith mae’r eglwys hynod, Eglwys Leicester, y dechreuwyd ei chodi ym 1578 ac y rhoddwyd sylw o ddifrif iddi gyntaf yn inventory Sir Ddinbych.

  • Adfeilion Eglwys Leicester, Dinbych: ffotograff a dynnwyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. (Llun:DI2005_0752 / NPRN: 93307)
  • Cyntedd a th?r eglwys y plwyf, Mallwyd, Meirionnydd, yn 2002. (Llun: DI2007_0353 / NPRN: 43907)
  • Tu mewn Capel Maesyronnen, y celfi o’r ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, a’r nenfforch o ddiwedd yr Oesoedd Canol yn y wal rhwng y t? a’r capel. (Llun: DI2008_0392 / NPRN: 81403)

Neuadd bregethu Brotestannaidd ryfeddol ei maint oedd hon (55 metr o hyd), a hi oedd yr eglwys fwyaf a godwyd ym Mhrydain rhwng y Diwygiad Protestannaidd a’r ailadeiladu a fu ar Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yr enghraifft bwysicaf sydd wedi goroesi o ailadeiladu yn yr ail ganrif ar bymtheg yng Nghymru yw eglwys y plwyf ym Mallwyd. Fe’i hailgodwyd yn unol ag egwyddorion yr Archesgob Laud gan y clerigwr o ysgolhaig, Dr John Davies, ac mae’n cynnwys tr rhyfeddol o bren ac arno arysgrifau Lladin. Mae tu mewn capeli ystâd y Rug a Gwydir (cofnodwyd yr olaf yn inventory Sir Gaernarfon) yn gyforiog o grefftwaith o safon uchel iawn.

Yr adeiladau crefyddol pwysicaf a godwyd i bwrpas penodol yw’r capeli anghydffurfiol cynnar. Maent yn frodorol eu hysbryd ac yn neilltuedig: er mai bwriad y Ddeddf Goddefiad oedd eu hamddiffyn, ni fynnai cynulleidfaoedd y capeli dynnu sylw atynt eu hunain. Trefnid tu mewn y capeli yn unol ag egwyddorion Protestannaidd, a’r enghreifftiau gorau o hynny yw Maesyronnen yn Sir Faesyfed a’r Capel Newydd yn Llangian yn Sir Gaernarfon. Ar sail yr adeiladau syml ac anymwthgar hynny y datblygai pensaernïaeth grefyddol genedlaethol a fyddai’n sicrhau lle amlwg iawn iddi ei hun yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.