Treftadaeth Cymru

Cymru wedi’r Ail Ryfel Byd

Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd yr oedd cyrchoedd awyr wedi gwneud difrod enbyd i borthladdoedd Abertawe a Chaerdydd, y ddau borthladd mwyaf yng Nghymru. Dinistriwyd neu difrodwyd adeiladau pwysig a newidiwyd patrwm strydoedd Abertawe am byth. Ar hyd yr arfordir, ac mewn mannau eraill, goroesodd adeiladweithiau o gyfnod y rhyfel er nad oedd eu hangen mwyach. Er gwaetha’r dystiolaeth wasgarog o greithiau’r rhyfel, gadawodd y rhyfel ei olion gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol dwys. Gan i’r rheiny, ynghyd ag effeithiau’r 1930au, adael eu hôl ar yr amgylchedd a’r ffyrdd o fyw mewn cymunedau ledled Cymru, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod yn cofnodi elfennau pwysig o’r gweddnewid rhyfeddol sydd wedi digwydd yn ystod ei oes ei hun.

Newid mawr wedi’r rhyfel oedd yr ymwybod cynyddol o gadwraeth. Wrth i ymwybyddiaeth pobl o ystyr yr hyn a oedd o’u cwmpas, a’u chwilfrydedd yn ei gylch, gynyddu, dechreuwyd cwmpasu pynciau nad ystyrid mohonynt gynt yn rhai o unrhyw bwys hanesyddol. O’r 1960au ymlaen, felly, cofnododd cymuned frwd a gwybodus o archaeolegwyr diwydiannol olion y diwydiannau a oedd wedi diflannu ac wrthi’n diflannu - o olion y diwydiannau llechi a glo i olion y diwydiannau copr a phlwm. Bu’r Comisiwn Brenhinol ar flaen y gad yn hyn o beth, yn arbennig o ran adfer y dirwedd ddiwydiannol gynnar honno a oedd o’r golwg o dan ddatblygiadau diweddarach yn Abertawe, ac o ran olrhain datblygiad camlesi Cymru. O ganlyniad i ailddarganfod parciau a gerddi hanesyddol bu mwy a mwy o werthfawrogi arnynt, a bu Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru a Cadw, ymhlith eraill, yn hyrwyddo’r broses o’u hastudio. Ledled Cymru, ymddiddorodd cymdeithasau dinesig, grwpiau hanes lleol a mudiadau arbenigol fwy a mwy yn y gorffennol gan ddadlau bod angen sicrhau cadwraeth adeiladau a safleoedd hanesyddol.

Oherwydd pryderon ynghylch canlyniadau’r dirywiad mewn crefydd gyfundrefnol, tynnwyd sylw at yr angen i gofnodi eglwysi a chapeli a oedd dan fygythiad neu heb neb yn eu defnyddio, ac i frwydro dros eu diogelu. Wrth edrych yn ôl, dechreuwyd barnu bod adeiladau crefyddol Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r capeli’n fwyaf arbennig, yn rhyw fath o bensaernïaeth genedlaethol.

  • .
  • Gwaith Golosg Cwm, ger Llantrisant, Morgannwg (Llun: DI2007_0155/NPRN:91585)

Mae’n bwysig tanlinellu cymaint o amrywiaeth economaidd a chymdeithasol oedd yng Nghymru a nodi i hynny esgor ar amrywiadau yng nghyflymdra’r newidiadau a’r math o newidiadau a welwyd. Nid yr un oedd profiadau trefi a phentrefi mawr y de â phrofiadau’r trefi gwledig, a gwahanol oedd hynt yr arfordir i hanes cefn gwlad. Yn y gogledd, yr oedd y chwareli llechi’n edwino ers tro byd a dal i ddirywio a wnaethant wedi’r rhyfel.

Ar hyd yr arfordir, crebachodd y diwydiant pysgota a’i borthladdoedd gan arwain at gau dociau a gostwng nifer y cychod i ddim mwy na dyrnaid ohonynt. Yng nghefn gwlad, gwelwyd ffermydd bach yn diflannu’n fynych yn sgil diboblogi a dirywiad byd amaeth. Ar yr uwchdiroedd, cafodd ehangu rhaglen y Comisiwn Coedwigaeth o blannu coed effaith aruthrol ar dirweddau hanesyddol. Wrth i blanhigfeydd aeddfed gael eu cwympo heddiw, mae aneddiadau ac adeiladweithiau hanesyddol sydd heb fod yn y golwg ers hanner canrif wedi ailymddangos ac wedi’u cofnodi. Ac o’r 1990au ymlaen, dechreuodd ffermydd gwynt fod yn symbolau amlwg a mwyfwy cyffredin o’r newid yn yr economi ynni ar dir a môr.

  • East Moors steelworks, Cardiff (Llun: GTJ 28634 / NPRN: 305757)
  • Penallta Colliery (Llun: GTJ28996 / NPRN: 80439)
  • Penallta colliery (Llun: DI2008_0307 / NPRN:80439)

O ran poblogaeth, yr oedd y de diwydiannol, a’r trefi glo a dur yn arbennig, yn tra-arglwyddiaethu ar weddill Cymru, ac yno y gwelwyd y newidiadau mwyaf oll.

Yn hinsawdd economaidd y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd, digon bregus oedd llawer o’r cymunedau a sefydlwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i wasanaethu’r diwydiannau trwm traddodiadol. Serch yr ad-drefnu a gafwyd drwy wladoli’r diwydiant glo ym 1947 a’r diwydiant dur yn gynnar yn y 1950au, dal i fod yn fregus yr oedd y sectorau hynny. Er pob ymdrech, caewyd gwaith dur Glynebwy ym 1975-6, ac yna waith East Moors yng Nghaerdydd ym 1978. Gwelwyd cyfnod ar ôl cyfnod o gau pyllau glo o 1947 ymlaen, a phan gaewyd pwll glo mawr Penallta ym 1992, dim ond tri phwll oedd ar ôl o’r cannoedd a fu ar waith yn y de. Caewyd yr olaf, Glofa’r Tŵr, yn 2007. Er i’r tomenni anferth o wastraff barhau i fod yn nodwedd amlwg ar dirwedd llawer cwm yn y de, bu trychineb Aber-fan ym 1966, pan lithrodd tomen a chladdu ysgol gyfan gan ladd 144 o blant ac oedolion, yn symbyliad i glirio llawer ohonynt.

Yr unig gynnydd a welwyd yn y diwydiant glo oedd cloddio glo brig, gweithgarwch a ddechreuodd yng Nghymru er mwyn hybu ymdrech y rhyfel. Tyfodd yn beth cyffredin o amgylch ymylon y meysydd glo o’r 1950au ymlaen gan newid tirweddau cyfan, a’u hamgylchedd dynol, yn barhaol. Yn 2006, caniatawyd yr hyn a elwir yn ‘weithgarwch cloddio glo brig mwyaf yn Ewrop’ yn Ffos-y-Frân ar ymyl ddwyreiniol bryniau Merthyr Tudful.

  • Mynedfa Gwaith Argraffu Gee (y tu mewn) a ffenest grom y perchennog (Llun: DI2008_0475 / NPRN: 41216)
  • Awyrlun o safle Dunlop Semtex sy’n dangos naw dôm concrid y prif ofod cynhyrchu ac, i’r dde ohonynt, fowtiau baril ‘ystafell gyffuriau’ y gogledd, ystafell felino y gorllewin (brig), yr adrannau gwasanaethu (chwith) a’r bwylerdy (gwaelod, de). (Llun: DI2007_1403 / nprn:41229)
  • Mast gorsaf radio Criggion, Sir Drefaldwyn, ychydig cyn ei ddymchwel yn 2003. (Llun: DI2007_0326 / NPRN: 309697)

Ailstrwythurwyd economi’r de wrth i weithgarwch gweithgynhyrchu ddisodli diwydiannau trwm, ond dirywio hefyd fu hanes rhai o’r diwydiannau newydd. Yr enghraifft fwyaf nodedig o hynny oedd ffatri Dunlop Semtex ym Mryn-mawr a gaewyd ym 1982. Dyma’r adeilad cyntaf i gael ei restru o blith y rhai a godwyd wedi’r Ail Ryfel Byd ym Mhrydain. Yr oedd yn ffatri a oedd yn gofeb i arloesi cymdeithasol a phensaernïol, ond fe’i dymchwelwyd am na lwyddwyd, er sawl cynnig, i ddod o hyd i ffyrdd priodol o’i hailddefnyddio.

Gwelwyd datblygiadau technolegol yn newid llawer diwydiant o’r bôn i’r brig gan ddileu’r angen am amryw o brosesau arbenigol. Yng Ngwasg Gee, y wasg hynaf yng Nghymru, golygai’r dechnoleg newydd ddileu’r angen am amrywiaeth o adeiladau arbenigol. Ym myd telathrebu, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r cyfnewidfeydd ffôn a oedd wedi’u helaethu wrth i nifer y tanysgrifwyr gynyddu. Enghraifft drawiadol o effaith grebachol y dechnoleg ddigidol yw’r banciau o ddetholyddion a gofnodwyd yn Shotton cyn iddynt gael eu datgomisiynu: yr oedd golwg go hynafol arnynt er nad oeddent ond deg ar hugain oed. Dymchwelwyd mastiau gorsaf radio Criggion yn 2003 ar ôl iddynt wasanaethu am hanner canrif o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd i’r Rhyfel Oer a thu hwnt.

  • Agorwyd Gorsaf Victoria yn Abertawe ym 1867. Yma y codwyd canolfan hamdden Abertawe yn ystod y 1970au.(Llun:DI2008_0604 / NPRN: 34874)
  • Second Severn Crossing (Llun: DI2005_0493/ NPRN: 405)

Wedi’r rhyfel, gwelwyd ehangu mawr ar isadeiledd a sector cyhoeddus y wlad. Wrth i’r rheilffyrdd grebachu o dan ‘fwyell Beeching’ o 1963 ymlaen, chwyldrowyd y system ffyrdd, a symbol o hynny yw’r ffyrdd deuol a adeiladwyd yn y gogledd a’r de a’r ddwy bont a godwyd dros afon Hafren.

Bu gwella’r ffyrdd yn fodd i ddarparu’r rhwydweithiau sylfaenol ar gyfer datblygu maestrefi enfawr, creu ac ehangu trefi fel Cwmbrân a’r Drenewydd a sefydlu parciau manwerthu a ‘pharthau menter’ ar gyrion trefi ac mewn ardaloedd gwledig. Ym maes cludo tanwydd fe all mai’r bibell nwy a adeiladwyd yn ystod degawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain, am 197 o filltiroedd o Aberdaugleddau ar draws y de i Swydd Gaerloyw, oedd y datblygiad mwyaf uchelgeisiol ym Mhrydain ers codi’r camlesi i gludo glo adeg y Chwyldro Diwydiannol. Er i’r cynllun gael ei feirniadu gan y cymunedau y rhedai’r bibell drwyddynt, creodd gyfle gwerthfawr i ddod o hyd i safleoedd hanesyddol a’u cofnodi.

  • Mawredd mewn concrid. Yr oedd domau ‘cregyn’ anferth a gynhelid gan golofnau ar oledd yn rhychwantu’r gofod cynhyrchu.  Dunlop Semtex (Llun: DI2008_0464 / NPRN: 41229)
  • Atomfa Trawsfynydd. (Llun: GTJ26442/ NPRN: 301092)
  • Y ‘Buff’s Room’ (ar gyfer y Buffaloes Benefit Society) yn Nhafarn y Fountain, Troedrhiw-gwair, Sir Fynwy. (Llun: DI2008_0483 / NPRN: 36863)

Yr oedd traddodiadau cymdeithasol a chymunedol yr ardaloedd diwydiannol i’w gweld yn glir yng nghlybiau a sefydliadau’r gweithwyr. Ynddynt, cyfunid addysg, hamdden a gwleidyddiaeth mewn ffyrdd cwbl arbennig. Codwyd ambell un o’r adeiladau wedi’r rhyfel, ond collwyd llawer o’u pwrpas wrth i’r diwydiannau traddodiadol ddiflannu ac i ddyfodiad y car a’r teledu chwyldroi patrwm bywyd pobl. Er bod y cymdeithasau cyfeillgar yn sylfaen hŷn ac ehangach i gymdeithasau diwydiannol a gwledig, ac er iddynt ddarparu budd-daliadau diweithdra a salwch a chladdedigaeth deilwng, edwino wnaethant hwythau wedi’r rhyfel wrth i’r wladwriaeth les dyfu. Fel rheol, cyfarfyddai cymdeithasau cyfeillgar mewn tafarndai, a chofnododd y Comisiwn Brenhinol un o’r ystafelloedd cyfarfod olaf yn nhafarn y Fountain yn Nhroedrhiw-gwair yn Sir Fynwy.

  • Awyrlun o Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, ar ôl ei gau, gan ddangos holl hyd a lled yr adeiladau a oedd wedi’u codi yno dros ganrif a hanner. (Llun: AP_2006_1006 / NPRN: 3010)
  • Gwisg o ddefnydd bras na ellid ei rwygo. Cadwyd y rhain yn amgueddfa’r ysbyty. (Llun: DI2008_0468 / NPRN: 3010)
  • Tu blaen gwallgofdy Dinbych. Codwyd yr adeilad ym 1847 yn wreiddiol. (Llun: DI2008_0486 / NPRN: 3010)

Oherwydd y cynnydd yn y ddarpariaeth gyhoeddus, yn enwedig ym myd

addysg ac iechyd, crëwyd cyfleoedd i wella’r amgylchedd cymdeithasol.

Wrth i ysgolion gramadeg ddiflannu’n raddol o’r 1960au ymlaen,

trawsffurfiwyd byd addysg gan ddyfodiad ysgolion cyfun mawr a cholegau

addysg bellach a’r ehangu ar y prifysgolion. Yn lle llawer o ysbytai

tref a bwthyn, rhai ohonynt mewn hen adeiladau wyrcws, codwyd ysbytai a

chanolfannau iechyd pwrpasol. Er hynny, un o’r newidiadau mwyaf

dramatig ym myd iechyd y cyhoedd oedd gwacáu’r ysbytai iechyd meddwl a

chau, felly, bob un o’r gwallgofdai hanesyddol.

Yn sgil

proses o gynllunio rhanbarthol ac o fuddsoddi gan y llywodraeth ledled

Prydain, symudwyd rhai cyrff mawr i Gymru. Daeth yr Asiantaeth

Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau i Abertawe a’r Bathdy Brenhinol i

Lantrisant. Yn y gogledd, codwyd atomfeydd yn yr Wylfa a Thrawsfynydd.

  • Carmarthen County Hall (Llun: DI2006_0286 / NPRN: 23309)
  • Terraced Housing , Splott (Llun: DI2006_1810 / NPRN: 309003)
  • Tai parod ar fin cael eu dymchwel yn Bishpool, Casnewydd, yn 2004. (Llun: DI2007_0408  / NPRN: 309133)

Yn union wedi’r rhyfel, codwyd tai parod – ‘prefabs’ – i gwrdd â’r prinder tai. Yna, gwelwyd datblygu mawr ar ystadau tai cyngor a chodi ambell floc uchel o fflatiau. Gallai clirio slymiau yn enw moderneiddio, a’r pryderu am les pobl, arwain at ddinistrio adeiladau hanesyddol. Adeg dymchwel y slymiau yn Abergefenni, gwelwyd enghraifft gynnar o gofnodi brys ar adeiladau o oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, a diogelir ffrwyth y cofnodi yng nghasgliad Thacker yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol.

Erbyn y 1960au, ac wrth i gyflwr economi’r wlad wella, gwelwyd codi ystadau mawr newydd o dai preifat a moderneiddio terasau o’r tai a godwyd yn oes Victoria. Effaith fynych gwaith cynllunwyr a phenseiri yn yr ugeinfed ganrif oedd dymchwel adeiladau diangen a dirywiedig a chodi, yn eu lle, adeiladweithiau a fu, maes o law, yn syndod o fyrhoedlog. Golygai ‘moderniaeth’ ym mhensaernïaeth yr ugeinfed ganrif ymwrthod yn fwriadol â’r gorffennol o ran swyddogaeth a defnyddiau lawn cymaint ag o ran delwedd. Nid yw’n syndod, felly, mai’r adeiladau mwyaf mentrus ac anghonfensiynol oedd y rhai a oedd debycaf o beidio â phara’n hir neu o gostio’n ddrud i’w cynnal a’u cadw. Wrth i ffasiynau newid, gadawyd rhai adeiladau a fu’n ddatblygiadau arloesol yn eu dydd mewn cyflwr bregus am nad apelient bron o gwbl at chwaeth cenhedlaeth newydd.

Un o newidiadau mwyaf y cyfnod wedi’r rhyfel oedd y newid ym mhatrwm

gweinyddiaeth y wlad. Ym 1974 dilëwyd y system o siroedd a sefydlwyd

yng Nghymru yn ystod teyrnasiad Harri VIII, a disodlwyd y siroedd

newydd yn eu tro gan ddau ar hugain o awdurdodau unedol ym 1996.

Oherwydd y newidiadau hynny mewn llywodraeth leol nid oedd angen llu o

adeiladau trefol a dinesig.

Er nad oedd effeithiau’r ad-drefnu ar

wasanaeth y llysoedd, yn enwedig yn sgil dileu sesiynau chwarter a

brawdlysoedd ym 1971, mor fawr yng Nghymru, efallai, ag yn Lloegr - a

rhaid cofio bod sawl un o lysoedd y Goron yn dal i weithredu mewn

adeiladau hanesyddol, yn enwedig yng Nghaerfyrddin - rhoddwyd y gorau i

ddefnyddio rhai llysoedd ynadon. Ar y llaw arall, esgorodd ad-drefnu

llywodraeth leol ar gnwd o adeiladau sifig newydd na feddai’r rhan

fwyaf ohonynt ar unrhyw ragoriaeth bensaernïol.

Yr oedd bythynnod

bach yn ogystal â ffermdai sylweddol mewn perygl yn ystod newidiadau

cyflym a helaeth y degawdau hyn, yn enwedig yn y gogledd a’r gorllewin,

yn rhannol am iddynt gael eu gadael i ddirywio ac yn rhannol oherwydd

datblygu anystyriol arnynt. Er hynny, y prif gategori o

adeiladau brodorol a oedd fwyaf mewn perygl oedd adeiladau traddodiadol

y ffermydd. Hwy oedd y rhai mwyaf niferus a’r rhai a gâi eu diogelu

leiaf. Dangosodd gorolwg Eurwyn Wiliam yn The Historical Farm Buildings

of Wales (1986) y gallai adeiladau fferm berthyn i deipiau hynod leol

ac nad oedd dealltwriaeth gadarn o gronoleg eu codi. Rhoddwyd y gorau i

ddefnyddio’r adeiladau hyn yn sgil cyfuno ffermydd a chyflwyno ffyrdd

modern o weithio. Bellach, mae ffermydd cyfan (y ffermdai yn ogystal ag

adeiladau’r ffermydd) yn anghyfannedd yn sgil cyfuno ffermydd, yn

enwedig ar yr uwchdiroedd. Ar y tiroedd isel brasach, yn enwedig yn Sir

Fynwy, Bro Morgannwg a rhannau o’r gogledd-ddwyrain, mae ffermydd wedi

bod yn ganolbwynt i ddatblygiadau preswyl newydd yn y wlad.

Yn yr eithaf arall, fel y dogfennwyd gan Thomas Lloyd yn The Lost Houses of Wales (1986), dal i ddirywio wnaeth llawer o blastai’r tirfeddianwyr a’r diwydianwyr ar ôl yr Ail Ryfel Byd gan ddiflannu y tu ôl i fôr o rododendrons a throi yn y pen draw yn adfeilion llwyr.

Achos hynod yw Cefn Mabli, plasty a fu unwaith yn un o blastai mwyaf yn y de. Llwyddodd i oroesi er gwaetha’i werthu, ei addasu’n ysbyty, a dioddef tân trychinebus. Achubwyd adfeilion y tŷ a throi’r cyfan yn fflatiau chwaethus (Michael Davies oedd y pensaer) ochr yn ochr â chynllun i ddatblygu’r parc. Ychydig filltiroedd oddi yno, mae Castell Rhiw’rperrai yn dal i fod yn enghraifft o holl her adfer plasty mawr a’i diroedd rhag degawdau o ddiffyg sylw.

Difrifol hefyd oedd sefyllfa tai trefol mawr y diwydianwyr, y mentrwyr a’r dosbarth canol proffesiynol llewyrchus yn ystod rhan olaf yr ugeinfed ganrif. Yn aml, codwyd y tai hynny ar ymylon trefi ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg neu ddechrau’r ugeinfed ganrif. Oherwydd eu hamgylchynu’n ddiweddarach â thai, troesant yn safleoedd a oedd yn hawdd eu hailddatblygu neu eu haddasu at ddibenion eraill. Yn aml, fe’u codwyd o ddefnyddiau rhagorol a chynhwyswyd ynddynt addurniadau helaeth – a go fympwyol ar adegau. Cafodd rhan o Stelvio House yng Nghasnewydd, cartref mentrwr masnach fôr, ei dymchwel er i’r tŷ gael ei restru, a dygwyd achos llwyddiannus yn erbyn y perchnogion am ei dymchwel yn anghyfreithlon.

Mae’r prosesau sy’n effeithio ar werthfawrogi a defnyddio adeiladau modernaidd yn amrywio, a syniadau a ffasiynau wedi newid. Mwy a mwy, bernir mai campwaith idiosyncratig yw casgliad pensaernïol rhyfeddol Clough Williams-Ellis o adeiladau ym Mhortmeirion. Arweiniodd yr ymwrthod â choncrid atgyfnerthedig, ynghyd â newidiadau ym mhatrwm busnes gwyliau, at roi terfyn ar wersyll gwyliau Pwllheli. Ar y llaw arall, yr oedd Ysbyty Sili ger y Barri yn fynegiant eithriadol o estheteg fodernaidd er iddo gael ei godi, rhwng l932 a 1936, yn adeilad mwy confensiynol o frics wedi’u rendro. Wedi iddo beidio â bod yn ysbyty yn y 1990au, cafwyd hyd i ffordd newydd a domestig o’i ddefnyddio.

Bygythiadau o’r fath sydd wedi peri i’r Comisiwn Brenhinol sylweddoli bod angen cofnodi adeiladau pwysicaf a mwyaf anturus y gorffennol diweddar cyn iddynt gael eu colli neu eu difwyno. Mae’r safleoedd yn amrywio o ffatri neilon Dupont ger Pont-y-pŵl i grŵp - sydd heb ei newid - o dai dieneiniad o ddiaddurn yn Ninas Powys ger Caerdydd ac Ysgol Uwchradd y Betws yng Nghasnewydd. Codai’r ysgol gyfun fodiwlaidd honno mewn tri cham o lan llyn ac fe’i hadeiladwyd o goncrid a gwydr, gan ddilyn cynllun gan Evans a Shalev, mor ddiweddar â 1969-72. Tynnwyd ffotograffau ohoni yn 2008 pan argymhellwyd y dylid ei dymchwel.

Yng Nghaerdydd, yr oedd yr Empire Pool a Pharc yr Arfau yn adeiladau cyhoeddus a chwaethus a oedd yn nodweddiadol o ysbryd optimistaidd y wlad wedi’r rhyfel. Pan agorwyd yr Empire Pool ym 1958, yr oedd yn symbol o statws newydd Caerdydd ers ei dyrchafu’n brifddinas ym 1955. I lawer, cynrychiolai’r adeilad croesawgar hwnnw y buddsoddi helaeth mewn chwaraeon a hamdden a’r terfyn ar y cyfnod o brinderau wedi’r rhyfel. Dyma’r adeilad cyhoeddus modernaidd cyntaf yn y ddinas, ac wrth ei gynllunio llwyddodd adran penseiri’r cyngor i ddal naws y ‘Festival of Britain’. Dylanwad uniongyrchol neu anuniongyrchol arno oedd rhai o’r adeiladau a godwyd ar y Cyfandir yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, yn enwedig ffatri dyrbinau AEG yn Berlin ym 1908. Ym mhob pen i’r cyntedd gwydrog âi’r grisiau helaeth ag ymwelwyr i’r ystafelloedd newid ar y llawr cyntaf, ac ar yr ail lawr yr oedd caffi â lloriau parquet ac addurniadau crôm. Ar y llawr isaf, yr oedd baddondai Twrcaidd eithaf dirgel ynghyd â baddonau eraill. Bob ochr i’r pwll nofio, a oedd yn 50 metr o hyd, yr oedd seddau ar oledd i 1,772 o wylwyr, sef mwy na’r hyn a geid yn y rhan fwyaf o ganolfannau adloniant ar y pryd.

Safai Parc yr Arfau i’r gogledd o’r Empire Pool ac fe’i codwyd ychydig yn ddiweddarach. Yr oedd naws Gymreig iddo o ddechrau’r broses o’i godi ym 1967. Cynlluniwyd y stadiwm gan Osborne V. Webb a’i Bartneriaid, penseiri yng Nghaerdydd, ac fe’i codwyd gan beirianwyr a chontractwyr o Gymru. Ynddo, defnyddiwyd deunyddiau a gynhyrchwyd yn bennaf gan y diwydiannau a adferwyd yn y de wedi’r rhyfel. Bu’n gynllun eithriadol o lwyddiannus am fod modd cael cipolwg ar ei ffrâm goncrid o wahanol fannau yn y ddinas a’i gweld yn llawn o lannau Afon Taf. Anaml y daw adeiladwaith ac iddo ffrâm goncrid yn adeilad sydd mor agos at galon cenedl, ond rhoddodd oes aur rygbi Cymru yn y 1970au gymeriad cwbl arbennig i’r lle.

Fel y sylwodd haneswyr chwaraeon, cyd-ddigwyddodd y llwyddiant ar y maes rygbi â llwyddiant economi Cymru. Yr oedd pobl wedi ymserchu’n fawr yn yr Empire Pool a Pharc yr Arfau, yn rhannol am i’r ddau ohonynt gael eu cynllunio’n gelfydd ac yn rhannol oherwydd i’r cyhoedd – ac yn enwedig y rhai a dyfodd yn oedolion yn y ’60au a’r ’70au − deimlo’u bod yn berchen arnynt ac, yn sgil hynny, ar ganol y ddinas. Er na restrwyd mo’r naill na’r llall, tynnwyd ffotograffau ohonynt fel rhan o raglen cofnodi brys y Comisiwn Brenhinol cyn iddynt gael eu dymchwel ym 1998 i godi Stadiwm y Mileniwm, stadiwm sy’n cyffroi edmygedd ond heb lwyddo eto i ennyn serch y bobl.

Agwedd bwysig ar bolisi trefol o 1987 ymlaen oedd ailddatblygu ardal y

dociau yng Nghaerdydd gan Gorfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd. Ar

ddechrau’r ganrif newydd, ymffurfiodd prifddinas weinyddol newydd ar

lan y dŵr ac yno mae’r bae sydd dan ddŵr yn barhaol yn gefndir i Senedd

y Cynulliad Cenedlaethol ac i Ganolfan Mileniwm Cymru, dau adeilad y

mae eu cynllun a’u defnyddiau’n fynegiant o agweddau ar dreftadaeth

Cymru.

Er mai wrth edrych yn ôl y gwelir i ba raddau y bydd y ddau

adeilad wedi dal dychymyg y bobl a’r dychymyg proffesiynol, ceir mwy a

mwy o ymddiddori yn nhreftadaeth bensaernïol Cymru yn gyffredinol a mwy

o gydnabod ar ei chyfoeth a’i hamrywiaeth. Fwy a mwy, hefyd, mae

traddodiad adeiladu brodorol cefn gwlad fel petai’n cynnig

ysbrydoliaeth arbennig i bobl. Bydd y traddodiad cynnar o godi

adeiladau o bren yn denu’r rhai sy’n ymddiddori mewn datblygu adeiladau

cynaladwy tra bo’r traddodiad o godi adeiladau o gerrig,

ac yn enwedig o gerrig enfawr yn Eryri, yn cyfleu i eraill barhad y

diwylliant, gwytnwch y trigolion a chydymdeimlad â’r dirwedd.  Fel y dywed yr arysgrif Saesneg ar du blaen Canolfan y Mileniwm:

‘In these stones horizons sing’.

.