Mae’r term ‘cynhanes’ yn disgrifio’r amser cyn i ffynonellau ysgrifenedig fodoli. Gwaith awduron Rhufeinig yw’r disgrifiadau dogfennol cynharaf sydd gennym o Gymru ac maent yn dyddio o ryw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl ac yn taflu goleuni ar ddiwylliant cyfnod tua diwedd yr Oes Haearn. Mae ffynonellau archaeolegol ac ysgrifenedig ar gael i ddehongli olion materol y diwylliannau oddi ar hynny, a phob un ohonynt yn gwrthbwyso gogwydd pob un o’r lleill. Ym myd cynhanes, ar y llaw arall, yr ydym yn dibynnu’n llwyr ar ffrwyth ymchwiliadau archaeolegol.
Mae’r ganrif ddiwethaf wedi gweld archaeoleg yn troi o fod yn faes diddordeb i hynafiaethwyr ac yn datblygu’n wyddor a disgyblaeth sy’n destun dadlau damcaniaethol ac yn elwa ar syniadau o feysydd anthropoleg, ethno-archaeoleg, daearyddiaeth a’r gwyddorau amgylcheddol. Mae’r archaeolegwyr sy’n astudio Cymru, a staff y Comisiwn Brenhinol yn eu plith, wedi gwneud llawer o waith darganfod, archwilio a dehongli henebion – henebion nad oedd llawer ohonynt wedi’u hadnabod cynt.
Yn Inventories cynharaf y Comisiwn, dogfennwyd olion cynhanesyddol fel pethau hynod yn y dirwedd wledig. Gan mai prin oedd y ddealltwriaeth ohonynt, credid yn aml nad oeddent mor bwysig â’r cestyll mawr a’r adeiladau crand. Ond wrth i archaeoleg gynhanesyddol gael mwy a mwy o sylw ers yr Ail Ryfel Byd, gwelwyd datblygu mwyfwy ar ddulliau gwyddonol o archwilio a dyddio olion ac o ddadansoddi eu hamgylchedd, a gwerthfawrogi cynyddol ar gronoleg ac arwyddocâd henebion a thirweddau o wahanol gyfnodau cynhanesyddol. Yn astudiaethau’r Comisiwn Brenhinol o Sir Gaernarfon, Morgannwg a Brycheiniog, dogfennwyd mannau claddu cynhanesyddol, caerau, caeau a ffermydd, ac ategwyd yr arolygu traddodiadol yn y maes â chloddiadau. Mae’r astudiaethau hynny wedi dal eu tir a hwy, yn aml, yw’r unig gofnod o ddarnau o’r Gymru gynhanesyddol. Mae prosiectau thematig, arolygon o’r uwchdiroedd ac arolygu o’r awyr wedi ehangu rhagor eto ar gofnod y Comisiwn o’r cyfnod cynhanesyddol.
Er bod yr ysgrif hon yn crynhoi cynhanes Cymru, rhaid cofio bod y cyfnod hwnnw’n un eithriadol o faith. Yr olion dynol cynharaf yng Nghymru yw’r rhai y cafwyd hyd iddynt wrth gloddio yn ogof Pontnewydd yn Sir Ddinbych, olion Neanderthaliaid cynnar sy’n dyddio o gyfnod rhyw 225,000 o flynyddoedd yn ôl. Er bod cynhaneswyr yn anfodlon ers tro byd ar ddosbarthu safonol yr oesoedd cynhanesyddol ar sail y prif offer a ddefnyddid ynddynt, sef Oes y Cerrig (a rannwyd yn oesoedd Palaeolithig, Mesolithig a Neolithig), yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, mae’n rhaniad sy’n cynnig canllaw defnyddiol ar gyfer llywio’r ffordd drwy holl amrywiaeth y byd cynhanesyddol. Nid newid dros nos wnaeth ffyrdd o fyw yr heliwr Mesolithig na’r amaethwr yn yr Oes Efydd.
Mae’n sicr i gymunedau weld mân ddatblygiadau technolegol ynghyd â newidiadau bach iawn yn eu harferion beunyddiol, eu defodau a’u credoau o oes i oes. Efallai i ymwelwyr neu fudwyr o diroedd pell a chanddynt offer neu wybodaeth dra gwahanol gyrraedd o dro i dro, ond cynyddu a chronni fesul tipyn a wnâi’r newidiadau gan amlaf. Yn raddol, dros filoedd o flynyddoedd, llwyddodd grwpiau o helwyr a chasglwyr – grwpiau symudol fel rheol – i ddatblygu trefn gymdeithasol fwy cymhleth, prosesau cynhyrchu offer, a’r gallu i’w mynegi eu hunain drwy gelfyddyd. Nid tan y cyrhaeddodd gwybodaeth pobl gogledd-orllewin Ewrop am amaethu a thyfu grawn ar ddechrau’r Oes Neolithig y ceir tystiolaeth o gymunedau’n ymsefydlu’n barhaol, yn storio bwyd dros gyfnod hwy ac yn cydymdrechu i greu cofadeiliau cymunedol mewn pren a charreg.
Yr oedd yr amgylchedd y trigai pobl gynhanesyddol ynddo hefyd yn newid yn gyson o genhedlaeth i genhedlaeth, yn ddiarwybod, bron. Yn ystod yr oesoedd Palaeolithig a Mesolithig, daeth oesoedd iâ olynol i ailffurfio cyfandiroedd a moroedd a gwelwyd newidiadau sylweddol yn yr hinsawdd. Ar ddechrau’r Oes Neolithig, rai miloedd o flynyddoedd ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf, gwelwyd lefelau’r môr o amgylch arfordir Prydain yn graddol sefydlogi ac yn creu’r arfordir sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Gan i archaeolegwyr ac eigionwyr dros y blynyddoedd diwethaf sylweddoli gwerth ymchwilio i’r tiroedd sydd bellach dan ddŵr, mae datblygiadau ym maes chwilio tanddwr wedi bod yn fodd i fapio tir Cymru cyn yr Oes Neolithig pan fyddai’r tir sydd bellach dan fôr bas wedi bod yn wastadeddau coediog. Gwelwyd newidiadau cyson ym mhrif batrymau’r tymheredd a’r glawiad, ac mae’r rheiny’n dal i ddigwydd hyd heddiw. Gan fod archaeolegwyr yn dibynnu ers amser maith ar ddata amgylcheddol i roi cyd-destun i’w hastudiaeth o safleoedd a chyfnodau penodol, mae eu darganfyddiadau’n goleuo mwy a mwy ar y canfyddiadau o’n hamgylchedd ni heddiw ac o’r ffordd y gall y newid yn yr hinsawdd effeithio ar ein ffordd o fyw.
Gellir olrhain anheddu dynol yng Nghymru i’r Oes Balaeolithig. Mae’r offer a’r esgyrn anifeiliaid y cafwyd hyd iddynt ac, ambell waith, y claddedigaethau mewn ogofâu, yn dweud rhywbeth wrthym am y bobl gynnar hynny, ond prin i’w ryfeddu yw olion dynol o’r cynoesoedd. Yr unig rannau sy’n weddill o gyrff y Neanderthaliaid cynnar o ogof Pontnewydd, olion sy’n dyddio o’r Oes Is-Balaeolithig (rhyw 225,000 o flynyddoedd yn ôl), yw eu genau a’u dannedd. Er nad trigo mewn ogof a wnâi pawb yn Hen Oes y Cerrig, mae’r rhewlifiannau olynol ar Gymru (y digwyddodd y diweddaraf ohonynt rhwng tua 21000 a 14,000 o flynyddoedd yn ôl), yn golygu mai ogofâu yw un o’r ychydig fannau lle mae olion pendant i’w cael. Cadarnhawyd bod pobl wedi trigo mewn ogofâu yn rhanbarthau carreg-galch y gogledd a’r canolbarth a bod cysylltiad rhyngddynt ac aneddiadau agored ardaloedd carreg-galch y de y tu hwnt i derfynau eithaf yr iâ rhewlifol.
Cafwyd hyd i ddosbarthiad helaethach o offer ac olion hominidau o’r Oes Balaeolithig Ganol (rhyw 50,000 o flynyddoedd yn ôl) a’r Oes Uwch-Balaeolithig (rhyw 30,000 o flynyddoedd yn ôl). Yn Ogof Coegan, sydd bellach mewn pentir ar arfordir Sir Gaerfyrddin ond a oedd ar un adeg rai milltiroedd o’r môr, cafwyd hyd i dystiolaeth bod Neanderthaliaid ‘clasurol’ wedi byw yno. Mae esgyrn mamothiaid, rheinoserosod gwlanog ac igfleiddiaid yn dangos pa mor wahanol yr oedd yr amgylchedd hwnnw i’n hamgylchedd ni, ac mae bwyeill trionglog yn dangos bod pobl wedi meistroli technoleg offer cerrig erbyn hyn. Yn ogystal â disgrifio safleoedd a darganfyddiadau o’r Oes Uwch-Balaeolithig yn ei Inventories ar gyfer Morgannwg (1976) a Brycheiniog (1997), bu’r Comisiwn Brenhinol yn cynorthwyo i archwilio Ogof Pen-y-fai (Paviland), safle o’r Oes Uwch-Balaeolithig Gynnar ar arfordir carreg-galch trawiadol de Gŵyr. Mae’r ogof yn enwog am mai yno y claddwyd dyn ifanc (a gamenwyd yn ‘Fenyw Goch’) ryw 29,000 o flynyddoedd yn ôl, ac offrymiadau o gregyn tyllog, rhodenni neu wialenni o ifori, a dwy freichled o ifori gydag ef .
Serch yr enghreifftiau cyfoethog o gelfyddyd a gofnodwyd mewn ambell ogof yn Ewrop - yr enwocaf ohonynt yw’r rhai yn Lascaux yn nyffryn Dordogne - ni chydnabuwyd celfyddyd ogof o’r Oes Uwch-Balaeolithig ym Mhrydain tan 2003 pan gafwyd hyd i enghreifftiau ohoni yn Creswell Crags yn Swydd Derby. Mwy cyffredin yw gwrthrychau celf cludadwy, fel esgyrn cerfiedig, ond yr unig rai y cafwyd hyd iddynt yng Nghymru hyd yn hyn yw’r rhai a gafwyd wrth gloddio yn Ogof Kendrick ar y Gogarth ger Llandudno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg: mae’r gên ceffyl a addurnwyd â llinellau igam-ogam endoredig yn arbennig o gain ac fe’i dyddiwyd i ryw 10000 CC
Wrth i’r iâ rhewlifol olaf gilio ac i’r tir gynhesu rhwng rhyw 8000 a 5000 CC, dychwelodd grwpiau crwydrol o helwyr-gasglwyr Mesolithig i drigo yma. Yr oedd lefel y môr yn isel a bu tir Prydain a thir y Cyfandir yn un tan ryw 8,500 o flynyddoedd yn ôl. Ymestynnai coedwig drwchus o goed pîn a derw filltiroedd lawer i faeau Ceredigion a Chaerfyrddin: wrth i’r mawn o’u cwmpas erydu daw bonau coed hynafol i’r golwg yn gyson ar hyd yr arfordiroedd a’r aberoedd. Er na adawodd pobl Fesolithig yr un cofadail gweladwy, mae olion eu gwersylloedd helaeth i’w gweld ar hyd yr arfordir ac weithiau ymhell i’r tir ac ar y mynyddoedd.
Yn Waun Fignen Felen ar ymyl ddwyreiniol y Mynydd Du ym Mrycheiniog , cloddiwyd anheddiad o’r fath lle’r arferid gwneud offer. Cadarnhaodd y samplu amgylcheddol a’r dyddio-drwy-radiocarbon fod cyfnodau o glirio’r goedwig wedi digwydd yno ryw 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac wrth gasglu eitemau o wyneb y tir a thrwy gloddio cafwyd hyd i amryw o ficrolithau a adawyd ar ôl y broses o naddu callestr (fflint), ynghyd â disg drydyllog o siâl. Un o’r safleoedd Mesolithig enwocaf a gloddiwyd yw Nab Head ar arfordir gorllewin Sir Benfro, lle gwnâi helwyr Mesolithig gallestrau (fflintiau) bach a bwyeill mwy o faint. Cafwyd hyd i fwy na 500 o leiniau siâl trydyllog yno, ynghyd â gwrthrych siâl cerfiedig a allai fod yn gerflun o Fenws neu’n ffalws. Credir mai hwnnw yw’r unig gerfiad o’r fath o’r Oes Fesolithig ym Mhrydain.
Effaith y cyflwyno graddol ar dyfu grawn o Ewrop tua 4500 CC oedd newid cynhaliaeth y bobl a helpu i esgor ar gymdeithasau mwy cymhleth yn ystod yr Oes Neolithig (rhyw 4500 CC tan 2500 CC).
I dyfu cnydau, yr oedd gofyn i rai pobl roi’r gorau i’w ffordd grwydrol o fyw a sefydlu aneddiadau amaethu parhaol er mwyn paratoi’r pridd, gofalu am y cnwd wrth iddo dyfu ac yna gynaeafu a storio’r grawn a’i sgil-gynhyrchion.
Er bod gan helwyr o’r Oes Fesolithig, mae’n rhaid, ryw ymwybod o diriogaeth yngl?n â’r tir y crwydrent drosto, effaith y drefn newydd a pharhaol hon o amaethu oedd dwysáu teimladau’r bobl ynghylch tiriogaeth a meithrin eu cysylltiadau â’r hynafiaid a oedd wedi amaethu’r tir o’u blaen. Efallai i adegau pur segur yn y flwyddyn amaethu, a’r gallu i storio’r hyn a oedd dros ben o’r cynhaeaf, ryddhau pobl mewn mannau sefydlog o orfod cynhyrchu bwyd a chynnig cyfle iddynt droi at weithgareddau crefft a mynd ati, er enghraifft, i danio potiau clai a llathru bwyeill o garreg folcanig y gellid eu defnyddio i glirio coedwigoedd a hyd yn oed i droi’r tir. Bu’r newidiadau hynny hefyd yn fodd i gyd-drefnu mentrau fel codi beddrodau siambr, sef olion mwyaf gweladwy’r Oes Neolithig yng Nghymru.
Er bod llawer ffurf i’r cofadeiliau claddu Neolithig , yr oeddent fel rheol yn domenni o bridd neu garreg a siambr neu gorffdy y tu mewn iddynt, neu yn un pen ohonynt. Dyddiant o’r Oes Neolithig Gynnar (4500 CC – 3500 CC yn fras) a hwy yw’r adeiladweithiau hynaf o’u bath sydd wedi goroesi yn Ewrop. Yng Nghymru, y gromlech borth yw’r ffurf fwyaf cyfarwydd. Fe’i ceir gan mwyaf ar hyd arfordir y de-orllewin a’r gogledd-orllewin, a’r hyn sydd wedi cyffroi’r dychymyg ers amser maith yw’r cerrig main sy’n cynnal y meini capan enfawr. Ond rhaid cofio na ddaeth y cerrig hynny i’r golwg tan i’r tomenni a arferai eu gorchuddio gael eu herydu. Mae gwaith cloddio wedi dangos i rai ohonynt gael eu hamgylchynu â thomenni crwn o gerrig cyn cael eu cynnwys mewn carneddau mwy cymhleth a mwy o faint, a bod siambrau pellach wedi’u creu yn aml. Cofadeiliau claddu mwy cywrain oedd y beddau cyntedd, ac yng nghanolbarth a de-ddwyrain Cymru codwyd carneddau hir o fath ‘Hafren-Cotswold’ ac iddynt dwmpathau petryal ac un neu ragor o siambrau. Nid mannau tawel i adael esgyrn ac offrymau ynddynt oedd y siambrau claddu.
Mae’r gwaith cloddio’n awgrymu i’r esgyrn gael eu symud, eu tacluso neu i rai newydd gael eu gosod yn eu lle ac, o bosibl, eu cymryd ymaith o bryd i’w gilydd er mwyn cynnal defodau teuluol mewn pentrefi neu fannau sanctaidd eraill.
Er bod beddrodau siambr wedi denu sylw ers tro byd, nodwyd llu o nodweddion eraill tirwedd ddefodol yr Oes Neolithig. Drwy astudio awyrluniau cafwyd hyd i henebion a oedd wedi’u colli o’r golwg, yn bennaf oherwydd troi neu glirio’r tir. Ymhlith yr henebion hynny, mae cofadeiliau cwrsws ac, o’r Oes Neolithig ddiweddarach, hengorau crwn – byddai cylchoedd pren a llociau enfawr ac iddynt balisadau wedi tra-arglwyddiaethu ar y tir. Yn Hindwell ar dir isel Basn Waltwn yn y Canolbarth, ceir y lloc Neolithig mwyaf ym Mhrydain, ynghyd â chlwstwr o henebion Neolithig eraill sy’n cynnwys cwrsws a lloc palisâd.
Safleoedd defodol a safleoedd claddu yw’r henebion mwyaf hysbys o’r Oesoedd Neolithig ac Efydd, ac anaml y ceir hyd i dai a llociau domestig. Y brigiad amddiffynedig bach yng Nghlegyrfwya yn Sir Benfro yw un safle y cadarnhawyd bod pobl wedi byw ynddo. Wrth gloddio yn Llandygái, o dan y garnedd siambr hir yn Gwernvale, ac mewn mannau eraill, cafwyd hyd i olion tai a godwyd o bren yn yr Oes Neolithig. Drwy i’r Comisiwn Brenhinol arolygu tir o’r awyr, cafwyd hyd i lociau sarnau enigmatig o’r Oes Neolithig: nodweddir hwy gan amryw o fylchau yn eu cloddiau a’u ffosydd allanol. Dehongliad posibl yw iddynt fod yn fannau lle byddai gwahanol gymunedau’n dod ynghyd i gynnal marchnadoedd, seremonïau a defodau, efallai, ond fe all fod eu swyddogaethau yn fwy cymhleth na hynny.
Mae astudio awyrluniau a dynnwyd ganol y 1990au wedi ychwanegu pum lloc sarn posibl ym Mro Morgannwg, Sir Benfro a thir isel Sir Faesyfed at yr enghraifft a gloddiwyd ym Môn. Hyd yn hyn, rhyw bedwar ugain o lociau tebyg sy’n hysbys ym Mhrydain gyfan.
Nid cymunedau ynysig oedd cymunedau amaethyddol yr Oes Neolithig. Cynhyrchent fwyeill cain ac amrywiol offer o frigiadau a meini crwydr o garreg igneaidd raenus. Rhaid oedd i’r graig feddu ar nodweddion arbennig: yr oedd gofyn bod modd defnyddio carreg forthwyl ac asgwrn neu offer corn-carw i’w hollti’n siâp bras i wneud bwyell ohoni, ond yr oedd yn rhaid iddi hefyd fod yn arbennig o gryf a dilychwin i’w defnyddio i wneud tasgau caled fel cwympo coed. Câi’r bwyeill eu bras-lunio yn y fan a’r lle cyn eu masnachu i gymunedau cyfagos i’r rheiny eu llathru’n fwyeill llyfn a gorffenedig, a gallai’r rhwydweithiau hynny o gyfnewid offer estyn am gannoedd o filltiroedd. Mae ymchwil yng Ngharn Meini ym Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro yn ddiweddar wedi cadarnhau i’r creigiau yno gael eu defnyddio am ganrifoedd maith, gan gynnwys cynhyrchu’r talpiau o garreg las a ddefnyddiwyd wrth godi Côr y Cewri.
Mae’r ffaith i fynedfeydd beddrodau siambr gael eu llenwi neu i’r beddrodau gael eu gadael yn adfeilion yn ystod yr Oes Neolithig Ddiweddar (tua 3500-2500 CC) yn arwydd o ddyfodiad arferion defodol ac arferion claddu newydd. Gwelwyd y cyntaf o gyfres o fathau newydd o grochenwaith, llestri addurnedig Peterborough, sy’n wahanol iawn i fowlenni plaenach yr Oes Neolithig. Yna tua 2700 CC daeth llestri rhigolog, sef llestri â gwaelod gwastad ac wedi’u haddurno â rhigoliadau a phatrymau arwyneb trawiadol.
Amrywiaeth helaethach eto o newidiadau sy’n dynodi dechrau’r Oes Efydd Gynnar (2500-1400 CC yn fras). Codwyd mathau newydd o gofadeiliau claddu a chofadeiliau defodol, sef carneddau (twmpathau crwn o gerrig) a chrugiau (twmpathau crwn o bridd) a orchuddiai un neu ragor o gorfflosgiadau neu gladdedigaethau corff-cyfan. Parheid i godi cylchoedd o gerrig a phren ar dir gwastad agored, ac efallai iddynt gael eu defnyddio ar gyfer cynnal gwyliau, gweithgareddau masnachu neu seremonïau crefyddol. Yn ystod yr Oes Efydd Gynnar y codwyd y meini hirion, y mwyaf enigmatig o’r henebion cynhanesyddol. Er i rai ohonynt, efallai, ddynodi terfynau neu lwybrau, yr oedd eraill yn dynodi mannau claddu neu’n rhannau o gasgliadau defodol o osodiadau ac adeiladau pren. Yn ogystal, gwelodd Prydain gyflwyno mathau newydd o grochenwaith a oedd wedi deillio’n wreiddiol o’r traddodiadau Ewropeaidd.
Y newid mwyaf tyngedfennol yn yr Oes Efydd oedd dysgu trin metelau. Mae gwaith ymchwil a chloddio wedi dod o hyd i sawl safle mwyngloddio o’r Oes Efydd. Ceir enghreifftiau ar Fynydd Copa yng Ngheredigion, ar Fynydd Parys ym Môn, ac ar y Gogarth yn Llandudno lle caiff y cyhoedd weld y lefelau tanddaearol cynhanesyddol. Manteisiodd y mwynwyr ar y gwythiennau o fwyn copr yno drwy gynnau tân i hollti’r graig a defnyddio cerrig morthwylio a cheibiau o gyrn ceirw i dynnu’r mwyn. Mae angen proses o ddadansoddi arteffactau o’r fath i ddeall rôl y safleoedd mwyngloddio hyn ym myd cynhyrchu a masnachu offer ac arfau.
Bu diwylliant gwerin y Biceri (2700-1700 CC yn fras), a bontiai ddiwedd yr Oes Neolithig a dechrau’r Oes Efydd, yn chwyldro diwylliannol gan i bobl o dramor gyflwyno syniadau newydd am arferion claddu, gweithio metelau, cyfoeth a grym. Yr oedd y potiau neu’r biceri a roddodd eu henw i’r diwylliant wedi’u haddurno’n helaeth ac yn llestri cywrain y cymerai ddyddiau lawer, mae’n debyg, i’w gwneud. Yn aml, ceir arnynt batrymau cymhleth o filoedd o olion gwasgu ar eu harwyneb. Gan eu bod yn wahanol iawn i’r llestri mawr diaddurn a’u rhagflaenodd, mae’n debyg mai mudwyr ddaeth â hwy.
A chan nad oedd cysylltiad, i bob golwg, rhwng diwylliant pobl y Biceri ac unrhyw gofadail newydd neu newid mawr yn yr economi, mae’n bosibl mai cael eu cymathu i’r diwylliant Prydeinig fu hanes y mudwyr a’u credoau newydd.
Yn ystod yr Oes Efydd Ganol a’r Oes Efydd Ddiweddar (tua 1400-700 CC) rhoddwyd y gorau i godi’r cylchoedd cerrig, y carneddau a’r crugiau sy’n gyfarwydd i ni, ond prin oedd y cofadeiliau gweladwy a ddaeth i gymryd eu lle. Dyma gyfnod o dwf yn y boblogaeth, o ddefnyddio dwysach ar y tir ac o sefydlu ffermydd ac iddynt diriogaethau a therfynau pendant. Er i’r clirio ar helaethrwydd Cymru o goed ddechrau cyn yr Oes Neolithig, cyflymodd y broses yn ystod yr Oes Efydd wrth i’r boblogaeth gynyddu, ond oherwydd y llosgi a’r clirio, gadawyd priddoedd bregus y coetiroedd yn agored i’r elfennau gan gynyddu lleithder y pridd ac ysgogi twf haenau o fawn.
Mae’n debyg i’r hinsawdd ddirywio cryn dipyn tua diwedd yr Oes Efydd Ddiweddar a dechrau’r Oes Haearn gan droi’n oerach a gwlypach. Credir i hynny achosi newyn ac aflonyddwch ac i lawer o gymunedau’r uwchdiroedd adael eu cartrefi a symud i ymylon y tiroedd isel fel y gororau a rhannau o arfordir Sir Benfro. Eto, ceir problemau wrth ddehongli’r dystiolaeth am y gall y darlun o bobl yn dal i anheddu’r tiroedd isel adlewyrchu’r gogwydd daearyddol ym mhatrwm yr ymchwiliadau archaeolegol. Hwyrach y bydd cloddio ar safleoedd dros dro ar fryniau’r Canolbarth yn dweud rhagor wrthym ynghylch sut y llwyddodd rhai cymunedau cynhanesyddol diweddarach i oroesi’r dirywiad yn yr hinsawdd.
Awgryma’r cleddyfau, y tariannau, y pennau bwyeill a’r dagerau y cafwyd hyd iddynt, a’r rheiny’n aml mewn celciau, nid yn unig bod mwy o ymosod a gwrthdaro’n digwydd (efallai i hynny gael ei ysgogi gan bwysau ar y boblogaeth ac awydd i amddiffyn tir) ond bod mwy o gyfoeth i’w gael. Ffynnodd y gororau canol yn yr Oes Efydd Ddiweddar. Erbyn y nawfed ganrif CC, codwyd bryngaer o gryn faint ar fynydd Breiddin, ac fe dra-arglwyddiaethai ar y tiroedd isel o’i hamgylch. Yn yr un modd, gallai bryngaer y Gaer Fawr gerllaw fod wedi’i chodi yr un mor gynnar er ei bod yn fwy nodweddiadol o’r Oes Haearn o ran ei ffurf, ond nid oes cloddio wedi bod arni hyd yn hyn.
Gerllaw’r ddau safle cafwyd hyd i gelc Cegidfa, celc o’r Oes Efydd Ddiweddar, sy’n dangos pa mor llewyrchus oedd y fro cyn yr Oes Haearn: cynhwysai 120 o ddarnau o waith metel a gynhyrchwyd yn lleol, megis llafnau cleddyfau, gorchuddion gweiniau a blaenau gwaywffyn. Mewn rhannau eraill o Gymru, codwyd aneddiadau ar gopaon bryniau a’u hamddiffyn â rhagfuriau a phyrth cadarn, a daeth y rheiny’n rhagflaenwyr i’r bryngaerau a gâi eu codi’n helaeth yn ystod yr oes a oedd i ddilyn.