Treftadaeth Cymru

Cymru’r Oesoedd Canol Cynnar

Mae hanes y saith canrif rhwng chwalu awdurdod yr ymerodraeth Rufeinig a choncwest y Normaniaid yn aml yn anodd ei ddirnad oherwydd prinder y dystiolaeth ysgrifenedig sy’n deillio o’r cyfnod a’r ffaith mai ychydig o safleoedd archaeolegol sydd wedi’u harchwilio. Er hynny, yn ystod y cyfnod hwnnw y magodd Cymru ei hunaniaeth, ei hiaith a’i diwylliant arbennig ei hun. Gwelwyd newidiadau sylfaenol: Cristnogaeth yn ymsefydlu’n gadarn yn grefydd y bobl, patrymau anheddu newydd yn cael eu creu, ac amrywiol ddylanwadau’n dod o’r gorllewin a’r dwyrain wrth i’r diwylliant Brythonig-Rufeinig edwino, ac wrth i’r Eingl-Sacsoniaid ac yna’r Llychlynwyr ymosod. Trawsffurfiwyd grwpiau llwythol yn deyrnasoedd helaethach a mwy sefydlog ac, am ennyd, gwelwyd y syniad o Gymru’n troi’n undod gwleidyddol.

  • Yr oedd Ynys Enlli yn un o’r canolfannau pwysicaf i bererinion yn ‘Oes y Seintiau’. Rhaid bod miloedd ar filoedd wedi glanio wrth y darn cul o dir a throedio’r llwybr ar draws Mynydd Enlli i’r abaty y tu hwnt iddo.  (Llun:GTJ00234 / NPRN: 402783)
  • Darfu am dref Caer-went yn Sir Fynwy ar ôl i'r Rhufeinaid adael, ond codwyd abaty y tu mewn i'r muriau Rhufenig. (Llun: GTJ22615 / NPRN:33166)
  • Yr arysgrif Ladin ym Mhen-bryn, Ceredigion, yw 'CORBALENGI IACIT ORDOUS' (Llun: DI2008_0439 / NPRN: 304135)

Rhannodd Cymru yn yr un helbulon gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol a wynebwyd gan yr ymerodraeth Rufeinig wrth i honno frwydro yn erbyn ei dadfeiliad yn y bedwaredd ganrif. Wrth i heddwch a sefydlogrwydd gilio, byddai trefn yr economi, yn enwedig yn ne-ddwyrain Rhufeinig Cymru, wedi gweld newid wrth i gylchrediad arian bath ddarfod. Yn sgil chwalu gweinyddiaeth ganolog Rhufain yn gynnar yn y bumed ganrif, datblygodd trefn gymdeithasol newydd o freniniaethau rhanbarthol annibynnol. Nid oes rheswm dros gredu i awdurdod gael ei gipio oddi ar y Rhufeiniaid drwy rym arfau. Gan nad oedd unrhyw lywodraeth ganolog effeithiol bellach, mae’n debyg mai’r gwŷr blaenllaw a oedd wedi arfer rheoli’n lleol neu weinyddu’r ystadau mawr a gydiodd yn yr awenau. Efallai i rai grwpiau newydd o arweinwyr fanteisio ar gymorth gweddillion y fyddin Rufeinig i’w dyrchafu eu hunain. Mae’n fwy na thebyg i arweinwyr y teyrnasoedd canoloesol cynnar gyfreithloni eu safle drwy honni eu bod yn parhau i gynnal awdurdod y Rhufeiniaid. Dyna a awgrymir gan yr arfer o godi meini coffa ac arnynt arysgrifau sy’n cynnwys termau Rhufeinig.

Er y gall rhai o’r llywodraethwyr newydd fod wedi’u hystyried eu hunain yn etifeddion i Rufain, ac er i awduron Lladin ddal i ddefnyddio teitlau fel ‘amddiffynnwr’, ‘ynad’, ‘tywysog’ a ‘brenin’, gwelwyd newidiadau amlwg. Symudodd grym seciwlar i fannau newydd. Er ei bod hi’n ymddangos i dref gaerog Caer-went (Venta Silurum) ger Cas-gwent, yn y rhan fwyaf Rhufeinig o Gymru, roi ei henw i deyrnas ganoloesol gynnar Gwent, mae’n debyg iddi golli ei swyddogaeth fel tref ar ôl blynyddoedd cynnar y bumed ganrif. Fel y gwnaeth y gaer Rufeinig ddiweddar yng Nghaergybi, trodd hi’n lleoliad i fynachlog, a rhoddwyd y gorau i lu o aneddiadau Brythonig-Rufeinig.

  • Diogelwyd amddiffynfeydd Caer-went yn well na rhai'r un dref Rufeinig arall ym Mhrydain. Yr oedd y muriau'n cyfleu statws y dref ac yn destun balchder i'w thrigolion. (Llun: AP2004_0367 / NPRN: 93753)
  • Y dirwedd amaethu o'r Oes Haearn neu'r cyfnod Brythonig-Rufeinig ym Muriau'r Gwyddelod uwchlaw Harlech. (Llun: AP2005_0072 / NPRN: 401818)
  • Y celloedd niferus ar Ynys Gateholm, SIr Benfro, gan edrych tua'r de-orllewin. (Llun: DI2006_0616 / NPRN: 102906)

Cyfnod o ymfudo a goresgyn oedd y bumed ganrif ledled Prydain. Yng Nghymru datblygodd llu o freniniaethau, ac wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddynt llwyddodd y rhai mwyaf egnïol a rhyfelgar i oresgyn eu cymdogion. Priodolwyd sefydlu teyrnas Gwynedd i arweinydd o’r enw Cunedda, gŵr a ymfudodd o ogledd Prydain i Wynedd yn gynnar yn y bumed ganrif ac, fe ddywedir, a yrrodd y goresgynwyr Gwyddelig o ogledd-orllewin Cymru. Ond mae amheuon ynghylch dilysrwydd y stori honno: barn llawer ysgolhaig yw iddi gael ei dyfeisio mewn cyfnod diweddarach er mwyn cyfiawnhau teyrnasiad tywysogion Gwynedd ac i ehangu eu teyrnas. Ymroes teulu Merfyn Frych (‘ardderchocaf Brenin y Brythoniaid’, bu farw yn OC 844) i lurgunio achau i gyfiawnhau dyfodiad Merfyn i rym yn y nawfed ganrif. Gan iddo fod, o bosibl, yn frodor o Ynys Manaw, fe all mai agwedd ar gyfreithloni ei darddiad tramor oedd priodoli sefydlu Gwynedd i Gunedda, sef i fewnfudwr cynharach.

Pwnc dadl yw pryd y dechreuodd Gwyddelod ymfudo i dde-orllewin Cymru. Dechreuwyd cynnal cyrchoedd ar y fro honno yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif, ond go brin iddynt gael ymgartrefu yno o dan oruchwyliaeth y Rhufeiniaid. Tarddiad Gwyddelig oedd i deyrnas Dyfed gan i’r Déisi, grŵp llwythol a yrrwyd o ardal Waterford, ymfudo i dde-orllewin Cymru yn y bumed ganrif ac i’w harweinwyr ddisodli’r rheolwyr brodorol yno a llywodraethu’r Demetae. Ceir tystiolaeth gref o bresenoldeb y Gwyddelod mewn arysgrifau Ogam, achau ac enwau lleoedd sy’n tarddu o Iwerddon. Mae’n debyg i ran o linach llywodraethwyr Brycheiniog hefyd darddu o Iwerddon.

  • Cynlluno gelloedd Gateholm. (Llun: DI2008_0730 / NPRN: 102906)
  • Maen arysgrifenedig fferm Blaen-awen, Nyfer, Sir Benfro. (Llun: DI2008_0429 / NPRN: 404576)
  • Clawdd Offa: y darn ohono i'r de Ben-y-bryn hyd at Orsedd-wen, Sir Ddinbych. (Llun:DI2006_0437 / NPRN: 275764)

Daeth teyrnas Powys i’r amlwg yn y bumed ganrif gan ymestyn ymhell i’r hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn Sir Amwythig; mae’n fwy na thebyg i Gaerwrygion (Wroxeter), i’r dwyrain o Amwythig, fod yn ganolfan gynnar a phwysig iddi. I ddyrchafu bri buddugoliaeth Powys dros drigolion Eingl-Sacsonaidd Mersia yn gynnar yn y nawfed ganrif, honnodd achyddion y deyrnas fod Macsen Wledig, a Gwrtheyrn hefyd efallai, ymhlith eu hynafiaid. Gwadwyd y traddodiad hwnnw’n llwyr gan eu harch-elynion yng Ngwynedd yn yr Historia Brittonum (Hanes y Brythoniaid) a briodolir i Nennius.

Gan mai de-ddwyrain Cymru oedd y rhan o’r wlad a ddaeth drymaf dan ddylanwad Rhufain, mae’n bosibl i ystadau Rhufeinig yn yr ardal honno oroesi fel unedau pendant hyd at gyfnod wedi dechrau’r wythfed ganrif. Sefydlwyd teyrnas Gwent, mae’n debyg, gan ddisgynyddion uniongyrchol arweinwyr y Silwriaid. Er i deyrnas arall yn y rhanbarth hwnnw, Erging, sicrhau lle blaenllaw iddi’i hun rhwng tua 500 a 600, cipiodd teyrnas Glywysing i’r gorllewin ohoni (rhagflaenydd Morgannwg) reolaeth dros Erging a Gwent.

  • Cylchfur Dinas Powys, Morgannwg: y banc mewnol a'r ffos, gan edrych tua'r gorllewin (Llun: DI2008_0814 / NPRN: 301314)
  • Yr Hen Gastell, Morgannwg, adeg y cloddio ym 1991 (Llun: DI2005_0691 / NPRN:401406)
  • Dinas Emrys, Sir Gaernarfon: bryngaer a drowyd yn gadarnle yn yr Oesoedd Canol Cynnar ac yn safle castell yn Oesoedd Canol. (Llun: AP_2005_0494 / NPRN: 95284)

Er mor wleidyddol dameidiog oedd Cymru, fe ddatblygodd ynddi iaith gyffredin a oedd yn wahanol i’r famiaith Frythonig, a cheir tystiolaeth ohoni erbyn diwedd yr wythfed ganrif mewn darnau ysgrifenedig ac yn yr arysgrifau sydd wedi goroesi. Yr haen uchaf yng nghymdeithas y mân deyrnasoedd oedd y brenin a’i deulu, a chaent gefnogaeth carfan o ryfelwyr. Telid am y cyfan drwy godi trethi ar gynnyrch amaethyddol trwch y boblogaeth a drigai mewn aneddiadau gwasgaredig neu faerdrefi bach. Cyfyng iawn oedd symudedd daearyddol a chymdeithasol haenau isaf y gymdeithas hon.

Yn ystod y seithfed ganrif wynebai teyrnasoedd y Cymry ymosodiadau’r Eingl-Sacsoniaid. Ambell waith, fe gynghreirient dros dro â theyrnasoedd unigol y Saeson yn erbyn gelyn cyffredin. Er enghraifft, pan ymosododd gwŷr Northumbria ar Bowys mewn ymgyrch y bwriadwyd iddi, mae’n debyg, gipio’r cyfan o ogledd Cymru a Mersia, tua’r flwyddyn 633, fe ymgynghreiriodd Cadwallon brenin Gwynedd â Penda brenin Mersia. Llwyddodd Cadwallon i yrru gwŷr Northumbria ar ffo ond fe’i lladdwyd yn 634. Er i gynghrair Gwynedd a Mersia lwyddo yn y pen draw, erbyn tua 642, dechreuodd Mersia estyn ei therfynau i mewn i Bowys a chychwyn cyfnod maith o ryfela ysbeidiol ar hyd y ffin.

Ar ôl canrif o ehangu gan Fersia, magodd Powys, o dan y Brenin Eliseg, ddigon o nerth i drechu Mersia tua’r flwyddyn 750. Ond cafwyd ymateb egnïol gan Offa, Brenin Mersia (757-96), y gŵr a roes o leiaf gychwyn i godi’r clawdd sy’n dwyn ei enw. Yr oedd y clawdd hwnnw’n pennu ffin bendant ac efallai ei fod hefyd yn ffordd o gadw trefn ar symudiadau pobl a nwyddau. Dyma un o gampau mawr gwaith adeiladu y cyfnod cyn yr Oes Ddiwydiannol, a’r heneb fwyaf nodedig o’i bath ym Mhrydain sy’n deillio o’r oesoedd canol cynnar. Gan i’r clawdd gael ei ystyried yn deyrnged i rym brenhinoedd y Cymry, mae wedi dylanwadu ar y darlun sydd gennym o faintioli daearyddol Cymru, ac o’i hunaniaeth.

  • Cynllun clawdd byr a chylchfur ar y gefnen i'r dwyrain o Gastell-nedd, o Inventory Morgannwg (1976) (Llun:DI2008_0729  / NPRN: 405456)
  • Clawdd Wat ym Mynydd Isa, Sir y Fflint (Llun: DI2007_0644 / NPRN: 309593)
  • Clawdd Offa: y darn ohono i'r de o Ben-y-bryn hyd at Orsedd-wen, SIr Ddinbych. (Llun:DI2006_0437 / NPRN: 275764)

Cafodd y newidiadau allweddol a welwyd ym Mhrydain y nawfed ganrif effaith ddifrifol ar deyrnasoedd y Cymry – gwelsant gyrchoedd gan y Llychlynwyr, dadfeiliad rhai o hen deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, a Wessex yn ymddyrchafu i roi arweiniad i’r Saeson. Rhoes yr amodau ansefydlog gyfle i rai o deyrnasoedd Cymru estyn eu tiriogaeth. Ysbrydoliaeth fawr iddynt oedd camp brenin Gwynedd, Rhodri Mawr (a fu farw yn 878), wrth lwyddo i uno tair teyrnas fwyaf y Gymru gynnar am y tro cyntaf erioed. Dywedir iddo gael Gwynedd gan ei dad (844), Powys gan ei fam (855) a Deheubarth drwy ei wraig (874); a thrwy ei ymdrechion ei hun fe drechodd filwyr o Ddenmarc ym Môn (856). Llwyddodd ei feibion i gwblhau ei oresgyniadau yn ne-orllewin Cymru, ac o hynny ymlaen fe rannwyd y llinach yn ddwy: etifeddwyd teyrnas y gogledd gan ei fab Anarawd a theyrnas y de gan ei fab Cadell. Hawliodd Alfred, Brenin Wessex (a fu farw yn 899), benarglwyddiaeth dros Gymru yn groes i ddymuniad teyrnas Gwynedd. Ond gwelai rhai o frenhinoedd Cymru fantais o sicrhau cefnogaeth Alfred er mwyn eu hamddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau’r Llychlynwyr a’r Eingl-Sacsoniaid a rhag cyrchoedd gan rai o’r llywodraethwyr brodorol. Ymddangosodd Cymry, fel y clerigwr a’r ysgolhaig Asser, yn llys Alfred. Yn 893 derbyniodd Gwynedd awdurdod Alfred drosti.

  • Glyn Llanbedrgoch (Llun: AP_2007_0119 / NPRN 405456)
  • Castell, caer bentir Trefadog ar arfordir Môn. (Llun: AP_2004_0284 / NPRN: 95571)
  • Cafwyd hyd i gysegrfa a chladdedigaethau wrth gloddio yn y feudwyfa fynachlogaidd yn Burry Holms yng ngogledd G?yr yn y 1960au. (Llun: DI2008_0813 / NPRN: 94719)

Yn ystod y ganrif nesaf llwyddodd Hywel (Hywel Dda yn ddiweddarach) i sefydlogi ffiniau Deheubarth. Bu’n rhaid iddo hefyd wrthsefyll y Llychlynwyr a theyrnas Wessex, ac er mwyn cryfhau ei safle bu’n barod i dderbyn penarglwyddiaeth brenhinoedd yr Eingl-Sacsoniaid. O ganlyniad i hynny, llwyddodd i oresgyn Gwynedd a chipio Brycheiniog. Erbyn ei farwolaeth tua OC 950, felly, ef oedd yn rheoli’r rhan fwyaf o Gymru ac eithrio’r de-ddwyrain. Caiff enw Hywel, ‘pennaf gogoniant yr holl Frythoniaid’, ei gysylltu am byth â’r broses o roi trefn ar y cyfreithiau a ddatblygwyd yng Nghymru dros y canrifoedd, i sicrhau ymhlith pethau eraill, ddull soffistigedig o reoli’r berthynas rhwng carennydd a’i gilydd.

Yn y pen draw, tarddodd y campau tiriogaethol hyn o gyneddfau personol y brenhinoedd unigol yn hytrach nag o broses o briodi ac etifeddu. Digon ysbeidiol, felly, fu bodolaeth eu teyrnasoedd tan i Gruffudd ap Llywelyn (a fu farw ym 1063) ddod yn frenin Gwynedd, Powys a Deheubarth, a llwyddo, hyd yn oed, i gipio Morgannwg. Ond prin iawn yw’r wybodaeth am yr hanes materol, hyd yn oed am y ddwy ganrif cyn y goresgyniad Normanaidd.

Er bod y cofnodion hanesyddol yn cyfeirio at weithgareddau a buddiannau rheolwyr grymus, rhyfeddol o brin yw’r wybodaeth am y patrymau anheddu a’r boblogaeth a drigai yno. Poenus o brin hefyd yw’r dystiolaeth archaeolegol, ond mae’n sicr ei bod o’r golwg yn rhywle. Mewn llawer ardal, mae’r olion yn llai gweladwy oherwydd i’r trigolion godi adeiladau o bren yn hytrach na cherrig, a phrin hefyd yw’r gwrthgloddiau sylweddol heblaw’r cloddiau llinol mawr. Am nad oedd traddodiad cryf o ddefnyddio llestri ceramig, ni cheir mo’r darnau gwasgaredig o grochenwaith sy’n dynodi anheddiad mewn cyfnodau eraill. Er mai’n anfynych, o’i gymharu â chyfnodau eraill, y ceir hyd i safleoedd newydd, mae gwaith y Comisiwn Brenhinol wrth archwilio o’r awyr wedi hwyluso’r broses o chwilio amdanynt.

Ar dir isel yr arfordir y cafwyd hyd i’r mwyafrif o aneddiadau canoloesol cynnar, ac mae modd canfod sawl math pendant ohonynt. Ar lawr gwlad y mae safleoedd amddiffynedig, fel y fryngaer fach ar bentir yn Ninas Powys ger Caerdydd, a welir gliriaf. Dyma’r safle cyntaf o’i fath i fod yn destun ymchwiliad cynhwysfawr, a dangosodd y gwaith cloddio rhwng 1954 a 1958 fod yma breswylfa nodedig rheolwr lleol a bod iddi’r nodweddion a berthynai i ŵr grymus ei safle. Cafwyd hyd i olion sawl adeilad o fewn pedwar clawdd a ffos, ynghyd ag amryw o arteffactau, a thystiolaeth o weithgarwch economaidd. Ymhlith y nwyddau a gâi eu mewnforio yno yr oedd crochenwaith o gyffiniau Môr y Canoldir a Ffrainc (mae’n debyg i’r amphorae gynnwys gwin ac olew olewydd), llestri gwydr cain o Loegr yr Eingl-Sacsoniaid a’r cyfandir, a metel sgrap i’w ailgylchu. Ers y cloddio pwysig hwnnw, bu cloddio ar safleoedd tebyg, fel y gaer ar fryn ger aber afon Nedd yn Hen Gastell. Mae ymchwiliadau eraill wedi cadarnhau’r farn sydd wedi’i choleddu ers tro byd i lawer o’r bryngaerau a feddiannwyd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid gael eu troi’n gadarnleoedd i frenhinoedd neu uchelwyr rhwng y bumed a’r seithfed ganrif. Ymhlith y rhai yr ymchwiliwyd iddynt mae’r gaer bentirol amlglawdd yng Nghaeriw yn Sir Benfro a’r bryngaerau trawiadol yn Negannwy ac yn Ninas Emrys yn Sir Gaernarfon. Cymeriad rhywfaint yn wahanol sydd i Ruddlan yn y gogledd-ddwyrain a’r gred gyffredinol yw mai hi oedd y burh Eingl-Sacsonaidd o’r enw Cledemutha a sefydlwyd yn 921 gan Edward yr Hynaf er mwyn dod â’r cyffiniau o dan reolaeth wleidyddol y Saeson. Efallai iddi fod yn ganolfan ranbarthol neu’n glofan bach a ddibynnai ar ei borthladd, ar y masnachu ar hyd y ffin, ac ar ystadau cyfagos.

  • Llyn Syfadan, ar diroedd cyfoethog Brycheiniog, o'i weld o'r de-ddwyrain, a'r llys brenhinol wedi'i osod yn y llyn ar y dde eithaf. (Llun: AP_2005_1878 / NPRN 32997)
  • Cloddio ar grannog Llyn Syfaddan, Gorffennaf 1990. (Llun:GTJ25670 / NPRN:32997)

Ar raddfa lai, mae’r gaer bentirol ar yr arfordir yng Nghastell ym Môn, a gloddiwyd ym 1991, wedi’i chymharu â chaerau pentirol y Llychlynwyr ar Ynys Manaw ac wedi’i chysylltu’n betrus â’r cysylltiadau a fu yn yr unfed ganrif ar ddeg a’r ddeuddegfed ganrif rhwng brenhinoedd Gwynedd, a Gruffudd ap Cynan yn arbennig, a Llychlynwyr Dulyn a Manaw. Mae’r anheddiad amgaeedig ar yr arfordir yn Llanbedr-goch ym Môn yn dangos bod canolfannau economaidd amddiffynedig yn arfer bod ar dir isel yr arfordir, a chafwyd hyd i anheddiad ar ynys artiffisial, neu grannog, yn Llan-gors, a hwnnw’n safle brenhinol a gysylltid â brenhinoedd Brycheiniog. Ceid hefyd aneddiadau o statws uchel a oedd heb amddiffynfeydd. Un ohonynt oedd Longbury Bank yn Sir Benfro, lle bu pobl yn byw rhwng diwedd y bumed ganrif a’r seithfed ganrif. Gall clystyrau o arteffactau, fel yng Nghynffig a Twlc Point ym Morgannwg a Linney Burrows yn Sir Benfro, awgrymu bod yno safleoedd canoloesol cynnar. Cafwyd hyd hefyd i dystiolaeth o amrywiol weithgareddau ar raddfa fach fel yn achos rhai grwpiau amgaeedig o gytiau sy’n dyddio o ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid ac mewn ambell ogof yn y de, fel Minchin Hole yng Ngŵyr ac ogof Garth Isaf i’r gogledd o Gaerdydd, gweithgarwch a oedd, efallai, yn gysylltiedig ag anheddiad ar y gefnen uwchben.

Hyd yn oed os yw elfennau pwysig o’r dirwedd ganoloesol gynnar, fel Cloddiau Offa a Wat ar hyd y ffin â Lloegr, neu’r cloddiau croes-gefnen a briodolir i’r cyfnod hwn, yn amlwg iawn, prin bod gennym unrhyw wybodaeth o gwbl am eu cyd-destun ehangach. Mae’r ychydig a wyddom yn awgrymu bod yma economi gwledig hunangynhaliol ynghyd ag ychydig o weithgarwch cynhyrchu, cyfnewid a masnachu. Efallai y bydd darganfyddiadau newydd, fel yr odynau sychu grawn a’r ffwrneisiau smeltio haearn a gloddiwyd yn ddiweddar yn Herbranston ger Aberdaugleddau, yn ildio rhagor o wybodaeth am y rheolaeth ar adnoddau ac i ba raddau yr oedd arbenigo yn nodwedd ar yr economi.

Cynhyrchid arteffactau’n bennaf yn y cartrefi i ateb galw lleol, ac eithrio, efallai, rywfaint o weithio metelau. Ymhlith y gweithgareddau y gellir canfod eu hôl ceir tystiolaeth o drin lledr, gwehyddu tecstilau, gweithio esgyrn a chyrn (i wneud cribau, yn arbennig), cynhyrchu haearn (i wneud offer ac arfau), a phethau mewn aloi-copr fel tlysau bylchgrwn, trin cerrig i wneud breuanau a cherrig hogi, a gweithio pren (ar gyfer adeiladau, palisadau a chychod). Ni châi unrhyw grochenwaith ei gynhyrchu’n lleol.

Mae’r dystiolaeth archaeolegol yn dangos i diroedd arfordir Cymru gadw eu cysylltiadau uniongyrchol neu anuniongyrchol â chyffiniau Môr y Canoldir rhwng y bumed a’r seithfed ganrif. Mae dylanwad Gâl i’w weld yn glir ar rai arysgrifau cynnar. Yn ystod y bumed a’r chweched ganrif mewnforiwyd amphorae a llestri cochlyd cain o lannau dwyreiniol Môr y Canoldir a gogledd Affrica; yn ystod y chweched a’r seithfed ganrif mewnforiwyd llestri ceramig o orllewin Ffrainc. Credir i lywodraethwyr Cymru ystyried gwaith metel a’r nwyddau crai yn ddefnydd cyfnewid a bod y fasnach â gorllewin Prydain, Iwerddon a’r cyfandir yn cryfhau. Mae’n bosibl mai ymateb i gymhellion allanol oedd llawer o hyn. Gwelwyd hefyd fewnforio llestri gwydr, gleiniau a gwaith metel o Loegr yr Eingl-Sacsoniaid yn y chweched a’r seithfed ganrif, i ryw raddau dros dir – hwyrach drwy deithio neu fel rhoddion diplomyddol neu briodasol yn hytrach na thrwy gyfrwng masnachu cyson.

  • Cafodd eglwys bresennol Mair Magdalen, Llanfair Nant-y-gof, i'r de o Drec?n yng ngogledd Sir Benfro, ei chodi ym 1855 yn lle eglwys ganoloesol, ond mae ffurf is-gylchog y fynwent yn awgrymu iddi gael ei sefydlu yn yr Oesoedd Canol cynnar. Mae'r gwrthgloddiau a slab mawr gorweddol o garreg galch yn y fynwent yn dangos bod yma hanes maith o weithgarwch. (Llun: AP_2006_1130 / NPRN: 230)
  • Ôl cnydau ffosydd y llociau sy'n amgylchynu Eglwys Sant Baglan ger Caernarfon. (Llun: AP_2005_1621 / NPRN: 403370)
  • Gr?p prin o grugiau sgwâr o'r Oesoedd Canol Cynnar y cafwyd hyd iddynt fel ôl crasu wrth ymyl ffordd Rufeinig yn y ddwyryd, Corwen, yn ystod sychder 2006. Gwelir hyd at bedwar crug ar gefnen o dir cras, ond nid oes modd gweld unrhyw nodwedd yng ngweddill y cae. (Llun: AP_2006_3977 / NPRN: 404711)

Mae’r cyfnod wedi 500 wedi’i alw’n ‘Oes y Saint’, ac ymhlith nodweddion y canrifoedd hynny yr oedd twf Cristnogaeth a datblygiad yr Eglwys ar ffurf a amlygai, yn aml, briodoleddau lleol. Mae parhad dygn y traddodiadau a’r cysegriadau yn awgrymu i rai o’r arweinwyr crefyddol fel Dewi, Padarn, Teilo a Deiniol greu cymaint o argraff nes i chwedlau amdanynt gael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Dewi (Dewi Sant), gŵr o linach frenhinol Ceredigion yn y chweched ganrif, oedd asgetig Cristnogol blaenllaw ei ddydd. Abadau a reolai gymunedau mynachaidd oedd eraill ohonynt, ac un o’r enwocaf oedd Illtud, abad mynachlog Llanilltud Fawr. Ymhlith y canolfannau Cristnogol cynnar yr oedd Bangor a Thyddewi, dwy diriogaeth eglwysig a phwysig a ddioddefodd ymosodiadau’r Llychlynwyr, fel y gwnaeth amryw o rai eraill: Caergybi a Phenmon ym Môn, Tywyn ym Meirionnydd, Clynnog Fawr yn Arfon, Llandudoch yn Nyfed, Llanbadarn Fawr yng Ngheredigion a Llanilltud Fawr a Llancarfan ym Morgannwg. Erbyn y nawfed ganrif, yr oedd y mynachlogydd yn berchen ar diroedd helaeth ac yn ganolfannau dysg a dylanwad gwleidyddol. Byddai eglwysi bach wedi britho’r dirwedd, ac mewn llawer man fe gododd y cymunedau Cristnogol lociau neu lannau i gladdu eu meirw ynddynt.

Prin i’w ryfeddu yw olion yr eglwysi cynnar. Mae tynnu awyrluniau ac arsylwi yn y maes wedi dod o hyd i fwy a mwy o fynwentydd, ac ymhlith yr enghreifftiau sydd wedi’u cloddio’n ddiweddar mae Brownslade Barrow yn Sir Benfro a Thywyn y Capel ym Môn. Er bod Bucheddau’r Saint, siarteri, a chroniclau’r Cymry a’r Eingl-Sacsoniaid yn cyfeirio at ganolfannau eglwysig, ac er bod clystyrau o feini arysgrifedig a cherflunwaith o garreg yn awgrymu eu lleoliad, ychydig sy’n wybyddus am y wedd a oedd arnynt yn wreiddiol. Aneglur, yn aml, yw eu maint a’u patrwm a’u perthynas ag aneddiadau seciwlar a’r safleoedd ymylol o fewn eu cylch bugeiliol. Eithriad prin yw Burry Holms yng Ngŵyr, lle bu’r Comisiwn Brenhinol yn cloddio ym 1965-8. Yn arolwg y Comisiwn o’r cyfnod Cristnogol cynnar ym Morgannwg (a gyhoeddwyd ym 1976), awgrymwyd mai cell meudwy neu encilfa gyn-Normanaidd oedd yno. Cafodd rhai ynysoedd eu troi’n breswylfeydd mynachod.

Mae’r ffaith i ganolfannau fel Ynys Bŷr fewnforio nwyddau o gyfeiriad Gâl a Môr y Canoldir rhwng y bumed a’r seithfed ganrif yn awgrymu bod ganddynt gysylltiad â’r byd y tu allan a hefyd, efallai ag aneddiadau seciwlar. Er bod gwaith archwilio o’r awyr gan y Comisiwn Brenhinol wedi datgelu dyrnaid o lociau amddiffynedig, a’r rheiny’n gysylltiedig â mynwentydd cylchog neu gromlinog llai eu maint, nid yw arwyddocâd y cysylltiadau hynny’n glir eto.

  • Llunaid o bedwar wyneb y groes o'r ddegfed gannrif neu ddechrau'r unfed ganrif ar ddeg yn Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Fawr, Ceredigion. (Llun: DI2008_0871/ NPRN: 308695)
  • Croes Nyfer, Sir Benfro. (Llun: DI2006_0444 / NPRN: 304393)
  • Croes Houelt yn eglwys Illtud yn Llnailltud Fawr. Tynnwyd y llun ym 1964. (Llun: DI2008_0556 / NPRN: 171)

Meini arysgrifedig a cherfluniau o garreg sy’n cynnig y dystiolaeth helaethaf o’r cyfnod hwn, ac maent yn hollbwysig wrth i ni geisio deall datblygiad teyrnasoedd, ieithoedd a llythrennedd y Cymry a datblygiad yr Eglwys. Dyddio o’r seithfed ganrif ymlaen wna’r meini croes-gerfiedig a cherfluniau mwy uchelgeisiol, gan gynnwys y croesau annibynnol (sydd weithiau ag arysgrifau arnynt). Mae’r amrywiadau arnynt yn awgrymu bod nifer o draddodiadau neu grwpiau o weithdai yn bod, ac mai’r mynachlogydd, yn aml, oedd yn ganolbwynt iddynt. Maent yn fodd i ni adnabod amrywiaeth o safleoedd eglwysig canoloesol cynnar ac olrhain nawdd a estynnwyd i’r Eglwys gan y gwŷr blaenllaw. Yn ei inventories cyntaf o’r siroedd cynhwysodd y Comisiwn Brenhinol gofnod manwl am sawl un o’r meini (y cofnod, er enghraifft, am y groes o’r ddegfed ganrif a elwir yn Faen Achwyfan yn y gyfrol ym 1912 ar Sir y Fflint), ac mae ei gofnodion a’i ffotograffau wedi cyfoethogi’r Corpws newydd o feini arysgrifedig a cherfluniau o garreg o’r Oesoedd Canol Cynnar. Ymddangosodd y ddwy gyfrol gyntaf o’r Corpws yn 2007.

  • Defnyddio  golau cyfeiriadol i dynnu ffotograffau o faen arysgrifenedig liw nos: maen De Abergwaun, Penwaun, Dinas, Sir Benfro (Llun: DI2008_0446 / NPRN : 276068)
  • Llunaid a wnaed gan y Comisiwn Brenhinol tus 1914 o'r arysgrif yn eglwys Sant Cadfan, Tywyn, Meirionnydd. (Llun: DI2008_0545 / NPRN: 43861)
  • Maen Elmon, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin. (Llun:DI2008_0430 / NPRN: 100711)

Mae llawer eto i’w ddysgu am batrwm yr anheddu yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol Cynnar – megis adnabod a dyddio safleoedd neu ddeall materion mwy cymhleth amdanynt. Er enghraifft, sut y câi hen safleoedd eu hailddefnyddio a rhai newydd eu codi? Pa ddiben oedd iddynt mewn cymdeithas a oedd yn newid? Pa effaith a gafodd y patrwm anheddu ar y dirwedd? Pa amrywiadau a welid o ran amaethyddiaeth a hwsmonaeth anifeiliaid? Er y gallai llawer o’r safleoedd uchel eu statws fod wedi cynnig noddfa ddiogel ar adegau cythryblus, ble’r oedd y mwyafrif o’r boblogaeth (yr amcangyfrifir iddi fod yn ddau neu dri chan mil) yn byw? Mae archif archaeolegol y Comisiwn Brenhinol yn arf hanfodol i’r rhai sy’n dymuno deall chwe chanrif o hanes nad yw’n hawdd ei amgyffred.