Mae tirweddau a threfweddau Cymru’n cynnwys safleoedd archaeolegol ac adeiladau o bwys hanesyddol a diwylliannol sydd – o ran eu ffurf, y defnyddiau adeiladu ynddynt, y ffordd y cânt eu grwpio, a’u harddull – yn meithrin ymwybyddiaeth o le ac arbenigrwydd lleol.
I gael gwybod rhagor am archaeoleg, treftadaeth adeiledig, tirweddau trawiadol ac arbenigrwydd rhanbarthol Cymru, cliciwch ar un o’r cysylltau isod. Os ydych chi’n ymddiddori yn hanes neu dreftadaeth man penodol yng Nghymru, chwiliwch ein cronfa ddata ar-lein, Coflein, am luniau a gwybodaeth am safleoedd archaeolegol, adeiladau hanesyddol a safleoedd arforol yng Nghymru.
Y Gogledd
Y Canolbarth
Y De
Trefi a Dinasoedd
Cewch wybod rhagor drwy ymweld â Theithiau a Llwybrau; Ar Draws Amser a Themâu.