.
Cyff Jesse, Eglwys Sant Dyfnog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. (NPRN:165239 DI2007_1988)
O gasgliad CBHC o Dryloywderau Lliw
yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
O gasgliad CBHC o Dryloywderau Lliw
yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Mae’r llun dramatig hwn o Gyff Jesse mewn gwydr lliw (1533-5), yn ffenestr ddwyreiniol corff gogleddol eglwys Sant Dyfnog yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Sir Ddinbych, yn enghraifft dda o gamp ffotograffwyr y Comisiwn Brenhinol. Sonnir gyntaf am yr eglwys honno yn y drydedd ganrif ar ddeg a gwnaed newidiadau iddi yn y bymthegfed ganrif a’r unfed ganrif ar bymtheg. Fe’i hadferwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r gwydr lliw’n darlunio’r ddau frenin, Solomon a Dafydd, yn codi o gorff Jesse wrth iddo gysgu.
Castell Penfro, Sir Benfro. (NPRN 94945. DI2007_1984)
O gasgliad CBHC o Awyrluniau Lliw Arosgo
yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Sefydlwyd Castell Penfro ym 1093 gan Roger de Montgomery yn gynnar yn hanes goresgyniad y Normaniaid o dde-orllewin Sir Benfro. Mae’n enwog am mai yno y ganed Harri VII, Harri Tudur. Yn yr awyrlun, a dynnwyd ym 1990 ar gyfer rhaglen y Comisiwn Brenhinol o fonitro henebion, gwelir castell a thref Penfro o’r gogledd-orllewin. Y tu ôl i’r ward fewnol gyfyngedig yn y tu blaen mae’r gorthwr crwn mawr, un o’r cynharaf o’i fath ym Mhrydain. Y tu hwnt i’r castell, mae muriau canoloesol y dref yn anarferol o gyflawn.
Cynllun Dŵr Cwm Elan. (NPRN 96459. 800406/11 - GTJ63756)
O gasgliad Edward Hubbard yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Dyma lun o adeiladu Cynllun Dŵr Cwm Elan, prosiect peirianyddol uchelgeisiol a gyflawnwyd dan gyfarwyddyd James Mansergh. Cymerodd hi dair blynedd ar ddeg, o 1893 tan 1906, i’w gwblhau. Codwyd yr argaeau, y cronfeydd dŵr, y twneli a’r draphont ddŵr i gyflenwi dŵr glân i Birmingham, dinas a gâi fwy a mwy o drafferth cyflenwi dŵr wrth i’w phoblogaeth gynyddu’n gyflym tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r llun yn dangos seremoni gosod carreg, a gwŷr bonheddig mewn wagenni rheilffordd ac arnynt y llythrennau BCWW yn ei gwylio.
Adeilad y Pierhead, Caerdydd. (NPRN :34241 CD2003_640_008)
Awyrlun a oedd yn rhodd gan Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru. Fe’i cedwir yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Mae’r awyrlun cynnar hwn o Adeilad y Pierhead yn nociau Caerdydd yn gofnod manwl o dirwedd drefol a diwydiannol sydd bron â diflannu’n llwyr. Codwyd yr adeilad trawiadol ac addurnedig hwn, ynghyd â thŵr y cloc, o frics ym 1896 i fod yn gartref i swyddfeydd y dociau. Y tu hwnt i’r siediau a’r warysau yn y cefndir, gellir gweld yr eglwys Norwyaidd, eglwys fach iawn mewn du a gwyn. Yn ddiweddarach, fe’i hachubwyd rhag mynd â’i phen iddi, ac adeg ailddatblygu Bae Caerdydd fe’i hadferwyd a’i throi’n adeilad allweddol. Mae’r awyrluniau a dynnwyd yn ystod degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, ac a gedwir yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, yn cynnig cipolygon gwerthfawr tu hwnt o Gymru cyn yr Ail Ryfel Byd.
Pwll Glo’r Pwll Mawr, Blaenafon. (NPRN:433 DI2007_1986)
O gasgliad John Cornwell yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Pwll glo hen a dwfn yw’r Pwll Mawr ac erbyn hyn mae’n un o’r amgueddfeydd mwyngloddio mwyaf blaenllaw ym Mhrydain. Er i rannau ohono ddyddio o gyfnod cynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn y 1830au y suddwyd y siafft ac ni chomisiynwyd mohono tan 1880. Tan iddo gael ei wladoli ym 1947 gweithredai’r pwll mewn cysylltiad â chwmni gwaith haearn Blaenafon. Erbyn hyn, mae’r pwll yn rhan allweddol o Safle Treftadaeth Byd Blaenafon a chaiff ei reoli gan Amgueddfa Cymru. Cofnodwyd y pwll ar gyfer y llyfr Collieries of Wales a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol ym 1994. Casgliad John Cornwell yw un o’r ffynonellau ffotograffig allweddol ar gyfer hanes diwydiannol y de.
Lloc Amddiffynedig Cawrence, Ceredigion. (NPRN 308918 DI2007_1982)
O Gasgliad CBHC o Awyrluniau Lliw Arosgo
yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Cafwyd hyd i loc amddiffynedig Cawrence, sydd i’r gogledd o Lechryd yn Nyffryn Teifi, o’r awyr ym 1995 a dyma’i weld flwyddyn yn ddiweddarach fel ôl cnwd clir iawn wrth i’r barlys aeddfedu. Mae’r prif borth ar y chwith (y de-orllewin) yn wynebu i lawr y llethr, ac ar ochr dde (ogleddol) y lloc allanol mae ‘drws cefn’. Mae’r trefniant cydganol yn gyffredin ymhlith ffermydd o’r Oes Haearn yng Nghymru. Lle i fyw oedd y lloc mewnol, mae’n debyg, a lle i’r anifeiliaid oedd yr un allanol. Cysylltir y ddau â mynedfa goridor, neu ‘antena’. Mae olion teiars y tractor yn y cnwd, a’r ffordd gerllaw, yn rhoi rhyw syniad o faint y lloc.
Castell Caerdydd. (NPRN 33. DI2007_1982)
Iain Wright, y Comisiwn Brenhinol, o Gasgliad CBHC o Dryloywderau Lliw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Sefydlwyd Castell Caerdydd y tu mewn i waliau’r gaer Rufeinig (NPRN 301346) gan William I, brenin Lloegr, tua 1081. Mae’n debyg mai tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg y codwyd tomen y castell yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y gaer ac i’w gorthwr mawr gael ei ychwanegu ati’n fuan ar ôl hynny, os nad yr un pryd. Dirywiodd cyflwr y castell ar ôl y Rhyfel Cartref. Rhwng 1868 a’r 1920au, trawsffurfiwyd llawer o’r castell yn unol â gweledigaeth ganoloesol William Burgess. Tynnwyd y llun o’r gorthwr, ac un o beunod y castell, ar gyfer cyfrol III (1a) ‘The Earlier Castles’, yng nghyfres Glamorgan Inventory y Comisiwn Brenhinol. Canmolwyd y gyfrol yn frwd adeg ei chyhoeddi ym 1991.
Y Cob, Porthmadog. (NPRN 34165. DI2007_1983)
Iain Wright, y Comisiwn Brenhinol, o Gasgliad CBHC o Dryloywderau Lliw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Sarn 1.4 km o hyd ar draws morfeydd heli’r Traeth Mawr yw Cob enwog Porthmadog. Syniad William Maddocks oedd codi’r arglawdd gwreiddiol, a gwnaed y gwaith rhwng 1808 a 1811. Ychwanegwyd arglawdd is ato ym 1836 ar yr ochr fewnol, a throsto rhedai ffordd dyrpeg ar ôl i lein gul Rheilffordd Ffestiniog (NPRN 34660) gael ei hadeiladu ar yr arglawdd gwreiddiol. Mae’r llun yn edrych tua’r gogledd-orllewin o weithfeydd rheilffordd Boston Lodge ar hyd y Cob (NPRN 91422), ac fe’i tynnwyd fel rhan o raglen barhaus y Comisiwn Brenhinol o gofnodi safleoedd diwydiannol.
Goleudy Ynys Enlli. (NPRN 34151. DI2005_0679)
Douglas B. Hague, y Comisiwn Brenhinol, o Gasgliad CBHC o Dryloywderau Lliw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Arloeswr ym maes cofnodi diwydiant a môr yng Nghymru oedd Douglas Hague, a bu’n gweithio fel ymchwilydd i’r Comisiwn Brenhinol o 1948 tan 1981. Cyfrannodd at y gwaith o gynhyrchu tair cyfrol Inventory Sir Gaernarfon (1956-64) y Comisiwn Brenhinol. Cofir Douglas yn bennaf am ei hoffter mawr o ynysoedd Cymru a’i astudiaeth faith o oleudai. Dilynwyd ei waith cychwynnol ar oleudai ar gyfer yr Archaeological Journal ym 1979 gan gyhoeddi, ar ôl ei farw, ei lyfr Lighthouses of Wales ym 1994 gan y Comisiwn Brenhinol. Y dyfrlliw hwn o orsaf goleudy Enlli oedd y llun ar y clawr cefn.
Llun o Angau, Eglwys Sant Eilian, Llaneilian. (NPRN 32283. Lluniad rhif 313X16. DI2005_1082)
Dylan Roberts, y Comisiwn Brenhinol, o’r Casgliad o Luniadau yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Ym mhen gogledd-ddwyreiniol pellaf Môn, ger Amlwch, y mae eglwys ganoloesol plwyf Sant Eilian, Llaneilian. Mae i’r eglwys gorff a changell o ddiwedd y bymthegfed ganrif, cyntedd deheuol a godwyd yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, tŵr gorllewinol a godwyd yn y ddeuddegfed ganrif, a chapel Sant Eilian – capel a arferai fod ar wahân ac a godwyd tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg (NPRN 43586). Mae’r eglwys yn cynnwys llawer o ffitiadau o’r Oesoedd Canol diweddar ac ar do’r gangell ceir murluniau o angylion a ffigurau eraill. Un o’r rhai enwog yn eu plith yw’r llun o Angau. Er ei fod braidd yn dreuliedig erbyn hyn, fe’i hadferwyd yn yr adluniad celfydd hwn gan Dylan Roberts.
Pwll Glo Taf Merthyr, Bedlinog. (NPRN 80488. DI2005_1114)
Charles Green, y Comisiwn Brenhinol.
Cyrhaeddodd twf rhyfeddol diwydiant glo’r de yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ei uchafbwynt ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ac er i’r gystadleuaeth ryngwladol ffyrnigo, daliwyd i ddatblygu pyllau glo newydd ar ôl y rhyfel, gan gynnwys un Taf Merthyr, yng nghanol maes glo’r de. Fe’i hagorwyd ym 1926. Bu’r cau cyflym ar y pyllau glo yn y 1990au yn her enfawr o ran cofnodi rhan hanfodol o hanes Cymru cyn iddi ddiflannu. Fel rhan o waith y Comisiwn Brenhinol o arolygu’r pyllau glo a oedd yn weddill, dewiswyd cofnodi Taf Merthyr yn fanwl, yn enwedig y prosesau o godi a pharatoi’r glo. Rhan o’r cofnod hwnnw yw’r lluniad a’i gapsiynau.
Castell Oxwich, Gŵyr. (NPRN 19554. Lluniad rhif 31X8 , GTJ00022)
Dylan Roberts, y Comisiwn Brenhinol, o’r Casgliad o Luniadau yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Gan i’r Comisiwn Brenhinol dreulio blynyddoedd maith yn arolygu ac yn cofnodi er mwyn gallu cyhoeddi cyfrol 3 (i) Inventory Morgannwg, sef Greater Houses, fe gynhyrchwyd cofnod gwych o lu o blastai’r de. Rice Mansel (1487-1559) a gododd y rhan helaethaf o Gastell Oxwich yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae i’r castell ddau floc preswyl o wahanol ddyddiadau, ffug borth milwrol i’r cwrt, ac olion colomendy (NPRN 37628). Mae torlun trawiadol Dylan Roberts yn nodweddiadol o’r safon uchel o gofnodi ac adlunio a gyrhaeddwyd ar gyfer Inventories Morgannwg, ac mae’n llun sy’n cyfleu gwybodaeth bensaernïol ynghyd â naws y dirwedd ar y pryd.
Gweithfeydd Old Castle, Llanelli. (NPRN 40509. DI2005_1153)
Dylan Roberts, y Comisiwn Brenhinol, o’r Casgliad o Wybodaeth Ychwanegol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Cyn i Dylan Roberts ymuno â changen graffigwaith a ffotograffiaeth y Comisiwn Brenhinol – cangen y deuai yn Bennaeth arni’n ddiweddarach – defnyddiodd ei ddoniau artistig nodedig i wneud brasluniau a lluniadau o lawer o adeiladweithiau diwydiannol ac adeiladweithiau eraill yn y de – y rhanbarth yr hanai ohono. Mae’r braslun lliw hwn yn dangos gweithfeydd haearn a thunplat Old Castle yn Llanelli ym 1957 pan oedd y cynhyrchu ynddynt ar ei anterth. Gan fod brasluniau cynnar Dylan Roberts yn gofnod byw o ddyddiau mawr y gweithfeydd, ac o’r bobl a weithiai ynddynt, maent yn ychwanegiad gwerthfawr at archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Plas-y-Llan, Eglwys-bach, Sir Ddinbych. (NPRN 27782. Cyfeirnod y Negydd AA54/2665. DI2007_1987)
G.B. Mason, 1954, o Gasgliad Ffeiliau Safle CHC,
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Ym mhen gorllewinol pellaf Sir Ddinbych ger Dyffryn Conwy saif Plas-y-Llan, maenordy a godwyd o gerrig yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae llawer o’i nodweddion gwreiddiol wedi goroesi, a’r pennaf ohonynt yw dau le tân addurnedig. Ar yr un yn ystafell y de ceir y dyddiad 1684 ac arfbais uwchlaw’r silff ben tân. Mae’r lle tân cyntefig a chain yn y gegin, y tynnwyd ei lun yma ym 1954, wedi goroesi’n rhyfeddol. Arno mae arfbais, y llythrennau ‘RSIW’ a’r rhif ‘16’ uwchlaw lle tân cynnar a chyflawn. Mae’r llun yn nodweddiadol o’r amrywiol gofnodion o bensaernïaeth frodorol a gedwir yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.