Mae taith Aberystwyth yn daith dywys ar droed drwy strydoedd y dref glan-môr hon ac yn cynnig cyd-destun i chi ddeall ei phensaernïaeth a’i datblygiad fel porthladd, tref brifysgol a chyrchfan glan-môr.
Defnyddiwch y daith dywys a’r map o’r dref i ddilyn y cyfarwyddiadau yn y canllaw. Cewch wybod am hanes a datblygiad y dref glan-môr hon ac am ei threftadaeth bensaernïol gudd. Yn y canllaw cewch luniau o’r adeiladau sy’n cael sylw yn y testun. Defnyddiwch y cyswllt ar waelod y tudalen hwn i weld y daith ar-lein neu i lwytho’r ffeil i lawr i’w hargraffu a mynd â hi gyda chi ar eich taith gerdded o amgylch Aberystwyth.