Ledled y Gymru ôl-ganoloesol a’r Gymru fodern ceir tystiolaeth o fasnachu – o siop y pentref neu’r parc manwerthu i’r porthladdoedd a’r harbwrs sy’n allforio cynhyrchion o Gymru, fel glo, haearn a dur, i bob rhan o’r byd. O edrych ymhellach yn ôl drwy’r oesoedd, fe welwn ni drefi a marchnadoedd cynlluniedig cyfnod y Rhufeiniaid a’r Oesoedd Canol neu, yn bwysicach efallai, y defnydd cyntaf o arian bath. Yn yr erthygl hon fe astudir tarddiad a datblygiad masnach yn y cyfnod cynhanesyddol, ac mae manylion llawer math o safle a heneb sy’n ymwneud â thema masnachu i’w gweld ar Coflein ac yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Y Fasnach Neolithig mewn Bwyeill
Yn sgil dyfodiad amaethu a ffordd fwy sefydlog o fyw yn ystod y cyfnod Neolithig (4500-2500 CC) y gwelir y dystiolaeth go-iawn gyntaf o fasnachu yn y cofnod archaeolegol. Yr enghraifft bennaf yw’r fasnach mewn bwyeill. Gan fod y fwyell yn arf hynod bwysig wrth i’r ffermwyr cynnar glirio coedwigoedd a dechrau diwyllio’r tir, mae pen llathredig y fwyell garreg yn un o’r arteffactau sy’n diffinio’r cyfnod. Drwy ddadansoddi’r garreg yn betrolegol, mae modd weithiau ddod o hyd i’w tharddle a hyd yn oed i’r chwareli lle câi’r offer eu gwneud. Drwy wneud hynny, mae modd mapio’u dosbarthiad.
Un o’r ffatrïoedd bwyeill mwyaf sy’n hysbys yng Nghymru yw Graig Lwyd ger Penmaen-mawr. Yma, manteisiwyd ar y brigiadau o graig igneaidd raenus, a châi’r bwyeill a grëwyd ohoni, yn ogystal â chael eu dosbarthu’n helaeth yn y farchnad leol, eu dosbarthu cyn belled â’r Peak District, Sir Efrog a Chanolbarth Lloegr.
Ceir safle ffatri fwyeill arall o bwys ar Fynydd y Rhiw ar ben gorllewinol Ll?n. Pan fu’r Comisiwn Brenhinol wrthi’n gwneud gwaith cloddio ar gyfres o bantiau yno am y tro cyntaf ym 1958, cafwyd hyd i gyfres o byllau chwarel a ddilynai’r haen o graig. Cawsai’r pantiau eu creu drwy ôl-lenwi’r pyllau, a chawsai cyfres o aelwydydd agored eu gosod ynddynt. Awgrymai hynny iddynt gynnig cysgod dros dro i’r gweithwyr yn ddiweddarach. Mae prosiect ymchwil newydd wedi cychwyn ar y mynydd o dan arweiniad Amgueddfa Cymru a gwneir y gwaith arolygu gan y Comisiwn Brenhinol.
Er i’r mwyafrif o’r bwyeill hyn gael eu defnyddio’n offer gwaith, gall pobl fod wedi cario amryw ohonynt yn symbol o’u statws. Syndod, yn aml, yw gweld pa mor bell y teithiodd rhai o’r bwyeill, a chan nad oes unrhyw dystiolaeth o arian bath na chanolfannau masnachu, credir mai’r ffordd fwyaf tebygol i ‘fasnachu’ ddigwydd yn ystod y cyfnod hwnnw oedd i fwyeill gael eu cyfnewid am nwyddau neu wasanaethau eraill, neu gael eu trosglwyddo o law i law gan gymdogion. Efallai iddynt gael eu rhoi’n anrhegion. Mae’n ddigon posibl mai canolbwynt digwyddiadau fel masnachu oedd rhai o adeiladweithiau’r cyfnod, fel yr hengor. Lloc cylchog oedd hwnnw, ac iddo arglawdd a ffos fewnol. Ynddo weithiau ceid cylch o gerrig neu goed. Golygai masnach fod pobl yn dod ynghyd, a byddent yn aml yn cyfarfod mewn mannau pwysig, megis cymerau cymoedd, ar lwybrau tramwy drwy’r wlad.
Ceir rhagor o dystiolaeth o gyfnewid nwyddau a syniadau yn arddulliau crochenwaith a henebion claddu’r cyfnod. Dangosant fod cysylltiadau rhwng grwpiau a rhanbarthau a oedd yn eithaf pell oddi wrth ei gilydd a bod y nwyddau’n teithio dros dir a môr.
Mwyngloddio Cynhanesyddol: Y Fasnach mewn Metelau
Canlyniad y defnyddio cynyddol ar fetelau yn ystod yr Oes Efydd, a’r ffaith fod mwynau pwysig fel copr a phlwm i’w cael mewn rhannau penodol o Gymru, oedd ehangu’r rhwydweithiau cyfnewid dros bellteroedd mawr. Y mwyngloddiau copr ar y Gogarth uwchlaw Llandudno yw’r enghraifft orau o fwyngloddio cynhanesyddol yng Nghymru am fod yno rwydwaith helaeth o fannau gweithio ar yr wyneb ac o dan ddaear, a thramwyfeydd sy’n estyn am 5 cilometr a rhagor ac yn disgyn i ddyfnder o 70 metr. Ymhlith y dystiolaeth archaeolegol a gafwyd o’r defnydd llanw yn y ponciau mae offer o esgyrn sydd wedi’u diogelu’n dda a cherrig morthwylio sydd wedi torri; yn ôl y dyddiadau a gafwyd drwy radiocarbon, mae’r siarcol yn dyddio o’r Oes Efydd. Ceir rhagor o dystiolaeth o fwyngloddio yn yr Oes Efydd ar Fynydd Parys ym Môn ac ar Fryn Copa ym mwyngloddiau Cwmystwyth ger Aberystwyth.
Arweiniodd y ddibyniaeth ar ffynonellau cyfyngedig o ddefnyddiau newydd at weld crefftwyr a rhwydweithiau cyfnewid arbenigol yn ymsefydlu. Mae nwyddau ‘egsotig’ fel ambr a muchudd nid yn unig yn dangos pa mor bell yr estynnai’r rhwydweithiau cyfnewid hynny, a chymaint o amrywiaeth o nwyddau a gâi eu masnachu, ond yn dangos hefyd fod rhai unigolion yn y gymdeithas wedi dewis gwisgo addurniadau personol cain wedi iddynt ymgyfoethogi.
Yn sicr, byddai cyfnodau o ansefydlogrwydd ac argyfwng wedi amharu ar yr holl fasnachu, ac yn ystod yr Oes Efydd Ddiweddar bu cryn ddirywiad yn y fasnach mewn metelau. Gwelir hynny yn y cofnod archaeolegol gan i bobl fynd ati’n fwriadol i guddio neu gladdu pentwr o nwyddau gwerthfawr. Gelwir y casgliadau hynny, fel yr un y cafwyd hyd iddo yn Llaneirwg yn Sir Forgannwg, yn ‘gelciau’. Credir mai celc masnachwr oedd un Llaneirwg, a cheir ynddo amrywiol gopïau o offer, a sawl un ohonynt o’r un mowld.
Erbyn yr Oes Haearn, ac yn sgil ffyniant o’r newydd ym myd masnach, datblygwyd rhwydweithiau cyfnewid cymhleth. Gweithredai rhai ohonynt ar draws Ewrop. Buont yn fodd i ffasiynau mewn celf ac addurniadau ymledu gan olygu y gallai crefftwyr lleol eu hefelychu. Ehangodd nid yn unig y fasnach mewn metelau ond hefyd y fasnach mewn nwyddau eraill fel crochenwaith a halen, ac mae’r ffaith fod dosbarthiad rhai cynhyrchion yn cyd-fynd yn agos â dosbarthiad cynhyrchion o ardaloedd eraill yn rhyw led-awgrymu bod rhywfaint o reoli ar y rhwydwaith masnachu. Efallai i rai o aneddiadau mwyaf y cyfnod, a’r fryngaer yn benodol, fod yn ganolfannau masnach lle deuid â nwyddau ynghyd i’w hailddosbarthu. Y tu allan i Gymru yn ystod y cyfnod hwn fe welwn ni hefyd y dystiolaeth gyntaf o ddefnyddio arian bath, ond er bod darnau o arian i’w cael yng Nghymru nid oes digon ohonynt i awgrymu iddynt gael eu defnyddio’n gyson.
Llwybrau Masnachu
Ar wahân i’r dystiolaeth o’r nwyddau a gâi eu masnachu yn y cyfnod cynhanesyddol, dau beth arall yn y cofnod archaeolegol sy’n dangos olion y fasnach yw’r llwybrau masnachu a’r dulliau cludo a ddefnyddid. Er ei bod hi’n anodd olrhain y llwybrau a ddefnyddid ar draws y tir yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, credir i bobl gerdded ar hyd y cefnennau am fod y rheiny’n haws eu tramwyo na cheisio brwydro drwy lystyfiant trwchus y tiroedd isel. Mae’r carneddau a’r gosodiadau cerrig ar hyd cefnennau Ceri a Clee yn y Canolbarth, neu’r bryngaerau ar ben bryniau Clwyd a Mynydd Llandysilio yn y gogledd-ddwyrain, yn ein helpu ni i olrhain rhai o’r llwybrau hynny.
Ceir tystiolaeth hefyd o adeiladu tracffyrdd, yn bennaf dros diroedd gwlyb. Ceir rhai fel y dracffordd y cafwyd hyd iddi yn Allteuryn ger Casnewydd ac sydd wedi’i dyddio i’r Oes Efydd. Arferai tracffyrdd groesi darnau helaeth o gorstir ac amrywient o fwndeli syml o brysgwydd a gawsai eu taflu i sianeli afonydd i dracffyrdd mwy sylweddol o bren â phegiau a gynhaliai lwybrau cerdded o brysgwydd ac estyll. Dau ddatblygiad mawr ym maes teithio dros dir a gafodd effaith aruthrol ar fasnach, mae’n rhaid, oedd dyfodiad yr olwyn a defnyddio’r ceffyl yn anifail tynnu yn yr Oes Haearn.
Byddai llwybrau teithio dros y môr ac ar hyd afonydd wedi bod yn hollbwysig wrth fasnachu, ac efallai y byddai hi wedi bod yn haws teithio arnynt hwy na thros dir. Ceir tystiolaeth o geufadau trwm o’r cyfnod Mesolithig ac mae’n bosibl i’r rheiny gael eu defnyddio ar afonydd am filoedd o flynyddoedd. Gan y byddai hi wedi bod yn fwy anodd teithio dros foroedd fel Môr Hafren a Môr Iwerydd, mae’n debyg y byddid wedi defnyddio cychod mwy sylweddol ac iddynt waelodion gwastad, tebyg i’r cwch gwniedig o ganol yr Oes Efydd a dynnwyd o Lyn Castell Caldicot. Cafodd y cwch hwnnw ei adeiladu o estyll derw a glymwyd wrth ei gilydd â phwythau o yw. Calciwyd y cwch â mwsogl ac mae’n fwy na thebyg y defnyddid rhodlau i’w lywio a’i yrru drwy’r d?r.
Erbyn tua diwedd yr Oes Haearn ac yn ystod y cyfnod Rhufeinig, yr oedd pobl yn hen gyfarwydd â theithio dros y moroedd ar hyd arfordir Ewrop a thu hwnt ac yr oedd moethau fel gemwaith, gwinoedd a llestri bwrdd coeth wedi cyrraedd hyd yn oed gaerau pentir a phorthladdoedd arfordir Cymru.
.