Adnoddau Dysgu

Gweithfeydd yr Hen Gastell (Haearn a Thunplat), Llanelli. Braslun lliw gan Dylan Roberts sy’n dangos dynion wrthi’n gweithio yng Ngweithfeydd yr Hen Gastell. 1957. (Image: DI2005_1153 / NPRN: 40509) Iard longau Penfro, Llithrfeydd 8-11 yn y Dociau. Iard Longau’r Llynges. Diddyddiad. (Image: CD2005_603_007 / NPRN: 96116)

Hanes Uwchradd

Mae’r tudalennau hanes uwchradd yn cynnwys enghreifftiau o’r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i gefnogi hanes yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a gofynion y Cwricwlwm Cymreig. Ceir yma wybodaeth am safleoedd ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru.

I ddod o hyd i ddelweddau, gan gynnwys awyrluniau diweddar, neu wybodaeth am safleoedd hanesyddol neu adeiladau yn eich ardal leol, gall Coflein fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth. Mae Coflein yn addas ar gyfer disgyblion i ymchwilio am wybodaeth am safleoedd hanesyddol yng Nghymru.

I gael gwybodaeth am ragor o ddeunyddiau neu enghreifftiau lleol cysylltwch â Gwasanaethau Ymholiadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru neu ein Swyddog Addysg.

Datblygir adnoddau addysgol pellach cyn bo hir.

Ydych chi wrthi’n ymgymryd â phrosiect sy’n ymwneud â threftadaeth Cymru? Beth am gymryd rhan yng nghystadleuaeth flynyddol Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig? Am fanylion pellach edrychwch ar ei gwefan drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.

Cysylltau allanol