Menter Archaeoleg yr Uwchdiroedd yw’r prif faes gwaith mewn archaeoleg maes ac fe’i hysgogwyd gan y ffaith mai’r hyn a gewch chi yn yr uwchdiroedd sydd dros 244 o fetrau (800 troedfedd) uwchlaw lefel y môr ac sydd heb eu gwella yw’r hyn sydd, i bob pwrpas, yn dirwedd ffosiledig ac ynddi gyfoeth o olion o bob cyfnod. Yr Uwchdiroedd yw 40% o arwynebedd tir Cymru, a gellir dweud bod 60% o’r wlad yng Nghymru yn uwchdir. Y disgwyl yw cwblhau’r prosiect yn ystod ail ddegawd y ganrif hon, a bydd y Comisiwn Brenhinol yn rhoi grantiau bob blwyddyn i alluogi timau o archaeolegwyr i gofnodi cofadeiliau a nodweddion eraill rhyw 150 o gilometrau sgwâr o dirwedd. Cyn i’r gwaith ar lawr gwlad gychwyn, bydd archaeolegydd o’r Comisiwn Brenhinol yn astudio’r holl awyrluniau fertigol sydd gan y Comisiwn ac yn defnyddio cyfrifiadur i gynhyrchu mapiau o’r holl nodweddion archaeolegol. Y mapiau hynny fydd yn llywio’r archaeolegwyr wrth iddynt gerdded yn gyfochrog, ac o fewn 40 metr i’w gilydd, ar draws y dirwedd ac yn eu helpu i ddeall nodweddion llinol hir fel tracffyrdd, cyrsiau d?r artiffisial neu derfynau caeau sydd wedi hen beidio â bod. Ar y llaw arall, gall archaeolegwyr ar lawr gwlad sylwi ar nodweddion bach fel carneddau cerrig neu feini hir cynhanesyddol sydd, yn aml, yn rhy fach i gael eu gweld o’r awyr. Mae’r gwaith maes yn fodd i’r llinellau ar awyrluniau gael eu dehongli’n gadarn ac i sicrhau dealltwriaeth integredig o dirweddau’r uwchdiroedd. Drwy arolygu a dehongli’n fanwl rai o’r adeiladweithiau a’r tirweddau mwyaf diddorol y deuir o hyd iddynt, bydd archaeolegwyr maes o’r Comisiwn Brenhinol hefyd yn cynyddu’n dealltwriaeth ohonynt. Caiff gwybodaeth am y safleoedd mwyaf nodedig ei throsglwyddo i Cadw er mwyn ystyried eu diogelu’n Henebion Cofrestredig.