Treftadaeth Cymru

Delweddau o’r Gymru Gyfoes

Gan fod Cymru’n wlad ddynamig, mae hi’n newid yn gyson ac mae diwydiannau newydd a ffyrdd newydd o fyw ac o godi adeiladau yn amlwg mewn llawer man. Yn yr oriel hon o ddelweddau cewch weld rhai o uchafbwyntiau’r Gymru gyfoes. Yr oedd cynlluniau rhai adeiladau, fel Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a ffatri Inmos yng Nghasnewydd, yn arloesol pan godwyd hwy ddegawdau’n ôl. Mewn eraill, fel t? pridd Malator yn Sir Benfro ac Adeilad Senedd y Cynulliad ym Mae Caerdydd, fe gynhwyswyd datblygiadau pensaernïol cywrain a fyddai wedi bod yn amhosibl ugain mlynedd yn ôl. Mewn mannau eraill yng Nghymru, mae newidiadau cyfoes, fel codi’r bibell nwy enfawr o’r dwyrain i’r gorllewin a thwf ffermydd gwynt ar ein bryniau ac oddi ar ein glannau, yn dangos bod Cymru a Phrydain yn dechrau mynd i’r afael â her cyflenwi ynni ar adeg pan fo atomfeydd fel yr Wylfa, a godwyd ym Môn wedi’r Ail Ryfel Byd, yn tynnu at ddiwedd eu hoes.

Ail-lunio’n trefi a’n dinasoedd

  • Ffasâd concrid Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, a th?r cloch y Brifysgol wrth ei hochr.
  • Y bont grog drawiadol a’r orsaf b?er yng Nghei Connah yn y gogledd-ddwyrain.
  • Gwestai, fflatiau glan-d?r a datblygiadau manwerthu newydd ym Mae Caerdydd yn y de.

Ffasâd concrid Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, a th?r cloch y Brifysgol wrth ei hochr.

Y bont grog drawiadol a’r orsaf b?er yng Nghei Connah yn y gogledd-ddwyrain.

Gwestai, fflatiau glan-d?r a datblygiadau manwerthu newydd ym Mae Caerdydd yn y de.

  • Morglawdd Bae Caerdydd yn y de, a Marina Penarth y tu hwnt iddo.
  • Mae pensaernïaeth arloesol Adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn cyferbynnu ag un Adeilad y Pierhead a godwyd o friciau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a godwyd yn sgil ailddatblygu dociau Abertawe.

Morglawdd Bae Caerdydd yn y de, a Marina Penarth y tu hwnt iddo.

Mae pensaernïaeth arloesol Adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn cyferbynnu ag un Adeilad y Pierhead a godwyd o friciau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a godwyd yn sgil ailddatblygu dociau Abertawe.

  • Mae adfeilion canoloesol Castell Casnewydd fel petaent yn angof rhwng pont y rheilffordd, pont y ffordd, y cylchfannau a grëwyd wedi’r Ail Ryfel Byd a’r cerfluniau sydd wedi’u codi’n ddiweddar ar hyd glan yr afon.
  • Adeiladwyd Malator ym 1998 yn encilfan penwythnos gan ddilyn cynllun gan benseiri Future Systems. Mae ef wedi hanner ei gladdu yn y ddaear, ac mae mur o wydr yn edrych allan dros ehangder Druidston Haven a Bae Sain Ffred yn Sir Benfro.
  • Datblygiad tai consentrig ac iddo ddarn canolog o borfa yn Glebelands, Hubberston, Aberdaugleddau.

Mae adfeilion canoloesol Castell Casnewydd fel petaent yn angof rhwng pont y rheilffordd, pont y ffordd, y cylchfannau a grëwyd wedi’r Ail Ryfel Byd a’r cerfluniau sydd wedi’u codi’n ddiweddar ar hyd glan yr afon.

Adeiladwyd Malator ym 1998 yn encilfan penwythnos gan ddilyn cynllun gan benseiri Future Systems. Mae ef wedi hanner ei gladdu yn y ddaear, ac mae mur o wydr yn edrych allan dros ehangder Druidston Haven a Bae Sain Ffred yn Sir Benfro.

Datblygiad tai consentrig ac iddo ddarn canolog o borfa yn Glebelands, Hubberston, Aberdaugleddau.

Diwydiannau Cyfoes

  • Atomfa’r Wylfa ar arfordir gogleddol Môn.
  • Yr heulwen yn goleuo toeon metel trawiadol glanfa fferi Porthladd Caergybi yn y gogledd.
  • Awyrlun o’r depo adeiladu enfawr a godwyd yn 2006-7 i wasanaethu llwybr y bibell nwy naturiol (yn y cefndir) yn Llys-wen ym Mhowys.

Atomfa’r Wylfa ar arfordir gogleddol Môn.

Yr heulwen yn goleuo toeon metel trawiadol glanfa fferi Porthladd Caergybi yn y gogledd.

Awyrlun o’r depo adeiladu enfawr a godwyd yn 2006-7 i wasanaethu llwybr y bibell nwy naturiol (yn y cefndir) yn Llys-wen ym Mhowys.

  • Gellir gweld mawredd y tyrbin gwynt gosgeiddig hwn yn Nhrefenter yn y Canolbarth drwy ystyried pa mor fach yw’r tractor sy’n mynd o dano.
  • Codwyd yr adeilad diwydiannol hwn ddechrau’r 1980au yn ffatri microsglodion. Yr oedd flynyddoedd o flaen ei amser ac mae’n dal i fod yn ffres a dramatig ei olwg yn yr awyrlun hwn.
  • Edrych ar awyrlun yw un o’r ychydig ffyrdd o weld patrwm a maint ffermydd gwynt helaeth ein hoes ni.

Gellir gweld mawredd y tyrbin gwynt gosgeiddig hwn yn Nhrefenter yn y Canolbarth drwy ystyried pa mor fach yw’r tractor sy’n mynd o dano.

Codwyd yr adeilad diwydiannol hwn ddechrau’r 1980au yn ffatri microsglodion. Yr oedd flynyddoedd o flaen ei amser ac mae’n dal i fod yn ffres a dramatig ei olwg yn yr awyrlun hwn.

Edrych ar awyrlun yw un o’r ychydig ffyrdd o weld patrwm a maint ffermydd gwynt helaeth ein hoes ni.